Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD "A Owaìth Cyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 82.] HYDREF, 1887. [Cyf. VII. CYFLENWAD YR ANGENÜS 0 DDÜW. " Pan geisio y trueiniaid a'r tlodion ddwfr, ac nis cânt; pan batto eu tafod o syched, myfi yr Arglwydd a'u gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel nis gaaawaf hwynt."—Esai xli. 17. »YMA addewid ardderchog ! Y Duw trugarog a graslawn yn addaw helpu ei bobl pan fyddo eu cyfyngder mor fawr fel na fedrant alw arno ! Eu tafod wedi pallu ! Mae Llyfr Esay yn dir bras, llawn o Efengyl, yn Feibl mewn Beibl. Yn Morganwg mae gwythienau y glo yn haenau trwchus iawn yn y gwaelodion dyfnion, ac yn mhell oddiwrth eu gilydd; ond ceir eu hymylon yn brigo yn bur agos i'w gilydd yn erchwynion eu gwelyau yn y mynydd-dir. Felly am athrawiaethau mawrion gras; gorweddant yn oblygion dyfnion yn y Datguddiad oll, ond y maent yn cydgyfarfod ar y wyneb yn mhroffwyd- oliaeth ogoneddus Esay. Gwelir yma gwymp dyn, dyfodiad y Gwaredwr o Ddwyfol Fabolaeth, cwymp Satan a'i deyrnas dan oruchafiaeth yr Hwn sydd yn dyfod i fyny o Edom, llwyddiant yr Efengyl, cosb yr an- nuwiol, tragywyddol ddedwyddwch y saint yn y nef, ac addewid am ddigon o gynaliaeth ar y ffordd tua'u cartref. Mae yr adnodau nesaf ar ol y testyn yn felus iawn, ac yn ein denu i'w darllen. Chwi welwch y gwartheg, ar ol eu godro a'u hysgafnhau o'u llwyth llaeth, wedi dychwelyd at y glwyd sydd ar y bwlch i'r ddol a'r borfa fras, ac yn dysgwyl i'r forwyn agor y glwyd iddynt fyned drachefn i fewn i'r ddol i droi yr adladd melus yn Uaeth. Feìly safwn inau wrth y testyn hwn. Agorwch chwithau eich Beiblau ar ol myned adref i ddarllen yr adnodau breision a ganlynant. Nid oes genym ddim hamdden yn bresenol i'w darllen. Mae digon yn y testyn i gael ein holl sylw ar yr achlysur hwn. I. Ceisio Dwfr. Mae dyn mewn eisieu mawr: y mwyaf ei angen ydyw o holl bres- wylwyr y byd. Mae ganddo gorff angenus ac enaid angenus. Mae ei 19