Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD "A Gioaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 75.] MAWRTH, 1887. [Cyf. VII. PRYNU DYN ODDIWRTH FELLDITH Y DDEDDF. " Crist a'n llwyr-brynodd oddiwrth felldüh y ddeddf, gan ei wneuíhur yn felldith trosom."—Gal. iii. 13. jWG yr Apostol y geiriau hyn i fewn i ddangos yr nnig ffordd i bechadur ddyfod yn rhydd o afaelion deddf gondemniol. Mae wedi bod yn profi trwy lawer o resymau cedyrn yr anmhosibl- rwydd i neb pwy bynag, Iuddew mwy na Chenedlddyn, gael ei gyfiawnhau drwy y ddeddf. Gwna hyn i ddangos i'r Galatiaid mor ynfyd peth y ceisient wneyd, sef cael eu cyfiawnhau drwy wreithredoedd y ddeddf, a hwythau unwaith wedi proffesu y gwirionedd efengylaidd bregethasid iddynt am gyfiawnhad drwy fi'ydd fel yr unig íîbrdd gyrhaeddadwy i bechaduriaid. Anercha hwy fel hyn : " 0 y Galatiaid ynfyd ! Pwy a'ch llygad- dynodd ?" Pa beth a'ch dyrysodd ? a ddygodd eich synwyr oddi- arnoch ? Pwy a'ch twyllodd ac a'ch hud-ddenodd i adael y gwirionedd ac i gilio ar ol y cyfeiliornwyr ? Oni phregethwyd Iesu Grist i chwi fel un croeshoeliedig drosoch ? Ac oni wyddoch iddo gael hyny, ac i ba beth ? Nid oedd efe yn bersonol yn haeddu marw. Na, fe'i traddod- wyd gan Dduw Dad i hyny i ddwylaw dynion pechadurus, ac yntau yn ddieuog ; ond i ba beth ? I wneyd yr hyn ua allai y ddeddf, oblegid ei bod yn wan drwy y cnawd. Os o'r ddeddf y mae cyfiawnhad, yna bu Orist farw yn ofer. Yn nesaf gofyna iddynt a oeddynt mor ynfyd a meddwl, gwedi iddync ddechreu yn yr Ysbryd, y perffeithid hwy yn y cnawd ? Gwaethygu yn lle gwella. A dderbyniasant rywbeth drwy y ddeddf? Ai wrth