Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. '• A Owaith Giffiawncler fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 73.] IONAWR, 1887. [Cyf. VII. "EIN BLYNYDDOEDD." " Treuliasom ein blynyddoedd fel chîcedl"—SAiM xc. 9. ' HAN 0 adolygiad ydyw y testyn, gan Moses. Y mae Gŵr Duw yn taflu yr ol-edrychiad, yn cymeryd yr ad-drem ddiweddaf ar y daith. Y mae rhyw ddifrifoldeb yn perthyn i bob peth olaf unrhyw ddyn, ond dyma beth olaf un a lanwodd ei gylch—a fu yn ffydd- lawn megys gwas yn yr holl dý. Ymsyniad un uwchben einioes, blyn- yddoedd yr hon a gyflawnwyd. Y mae llawer wedi treulio eu blynyddoedd nas gellir dywedyd ddarfod iddynt eu cyflawni. Y mae genym ar gael Bregeth Moses. Ac y mae Cân Moses yn enwog, nid yn unig ar y ddaear, ond dywedir bod y rhai gafodd y maes ar y gelynion, wedi cael telynau Duw, yn canu Cân Moses, gwasanaethwr Duw, a Chân yr Oen, yn y nefoedd. Ond " Giueddi Moses, Gŵr Duw," ydyw teitl y Salm hon. Nid anmhriodol, nac anfuddiol i ninau, ar ddechreu blwyddyn, adolygu " ein blynyddoedd." Ein Blynyddoedd! Y raae yma swn meddiant—" Ein blynyddoedd." Nid oes dim meddiant genym yn y blynyddoedd dyfodol. Os rhoddir rhai ohonynt i ni, y maent heb eu rhoddi eto. Rhyfygu hòni hawl mewn peth nad oedd yn eiddo iddo yr oedd yr ynfyd hwnw oedd yn dyweyd wrth ei enaid bod ganddo dda lawer wedi ei roddi i gadw dros lawer 0 flynyddoedd ! Wrth edrych yn ol yn unig y gallwn ni ddyweyd " Ein blynyddoedd," Er eu bod wedi myned, eto nid yw eu perthynas â ni wedi darfod. Am bob peth arall y byddwn ni wedi eu i.eulio, nid nyni a'u pia hwy rawy. Ar ol i ddyn dreulio ei arian, nis gall eu galw " fy arian ;" y maent gan ereill, a hwy sydd yn eu hawlio mwyach. Ond am ein blynyddoedd, er