Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Gwaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 210.] MEHEFIN, 1898. [Cyf. XVIII, ABIA. " Olierwydd caedynddo efbeth daioni tuag at Arglwydd Ddaw lsrael, yn rihy Jeróboam.''''—1 Bben. xiv. 13. |U Duw yn garedig iawn i Jeroboam. Gwnaeth ef yn frenin ar Ei bobl Israel. Gwnaeth yntau fwy o ddrwg na neb fu o'i flaen. Yr oedd wedi gwneyd duwiau dyeithr, a thaflu Duw tu ol i'w gefn, a gwneyd i Israel bechu. Yr oedd Jeroboam, brenin Israel, a Jehoiacim, mab Josiah, brenin Judah, yn debyg i'w gilydd mewn gwneuthur drwg. Fe dorodd hwnw y Llyfr â'i gyllell, ac a'i taflodd i'r tân—y cyntaf i losgi y Beibl. Daeth barn Duw arno. " A'i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd a rhew y nos ; â chladdedigaeth asyn y cleddir ef, heb neb yn galaru ar ei ol, wedi ei lusgo a'i daflu tuhwnt i byrth Jerusalem." Daeth barn Duw ar Jeroboam yn drwm. "Ac Mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod. Y cwn a fwyty yr hwn fyddo marw o eiddo Jeroboam yn y ddinas ; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw yn y maes ; canys yr Argíwydd a'i dywedodd." Pa un ai ar y ddaear neu tan y ddaear y bwyteir cyrff dynion, nid ydyw o gymaint pwys, ond bod dan farn Duw sydd yn ddifrifol iawn. Yr oedd gan Jeroboam fab, a'i enw Abia. Yr oedd Abia yn anhebyg i bawb yn y teulu. Cafwyd ynddo beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel yn nhŷ Jeroboam. Perl yn nghanol sorod. Fe ddywedir, os bydd dernyn o ddur mewn llawer 0 jsgarthion, y ffordd oreu i'w gael i'r golwg ydyw dal maen tynu uwch ei ben. Os byddys am wybod a oes peth daioni mewn dyn, mae yr Efengyl a moddion gras yn sicr o'i dynu allan.