Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 206.] CHWEFROR, 1898. [Cyf. XVIII. JACOB AC ESAÜ. jAU frawd a gefeilliaid oedd yr uchod ; er hyny, yr oeddynt bron mor anhebyg i'w gilydd ag y gallasent fod. Yn un 0 gymoedd &^^ poblog Gwent, yr oedd gefeilliaid yn byw hyd yn ddiweddar oeddynt mor debyg i'w gilydd mewn pryd a gwedd, maintioli ac arferion, fel y cymerodd y dygwyddiadau canlynol le yn eu hanes. Yr oeddynt yn gweithio yn y gwaith dur, gyda'r un goichwyl a gwr arall, yr hwn a ddywedodd wrth un ohonynt un boreu cyn cychwyn ar waith y dydd: " Yn awr, gyfaill, de'wch i ni gael deall ein gilydd, dywedwch i mi pa un ai Jonathan ai Dafydd i ch'i ? Y mae genyf fi hen gŵyn yn erbyn Jonathan." Ac ni fuasai neb oedd wedi gweled y gefeiìliaid hyn yn synu dim at anhawsder y gwr hwn, gan mor hynod 0 debyg oeddynt. Dywedir hefyd eu bod un diwrnod yn cynhauafu ar fferm cwmni y gwaith, ac i'r hwn oedd yn rhanu diod i'r cynhauafwyr ddwrdio un ohonynt yn arw am ei fod yn ceisio am gwpanaid arall mor fuan, ac yntau newydd gael un. "Paid ti a meddwl," meddai," "y gelli fy nhwylio i," tra, mewn gwirionedd, ei frawd gafodd y cyntaf, ac nid efe. Ond nid oedd perygl i neb ond y dall, fel Isaac, wneyd camsyniad felly am Jacob ac Esau. Yr oedd digon 0 wahaniaeth yn y dynion oddiallan. Yr oedd y naill yn wr garw ei groen a blewog, a'r llall yn wr Hyfn ac eiddilaidd yr olwg arno. G-wahaniaethent yn fawr hefyd yn eu harferion a'u Heisiau ; a gwahaniaethent fwy fyth yn eu cymeriad moesol; a dyma, wedi'r cyfan, ydyw y gwahaniaeth pwysicaf all fodoli rhwng dynion. Y mae y gwahaniaeth hwn yn gosod dynion mewn bydoeddgwahanol, a'r pellder rhyngddynt yn cynwys yr eithafion mwyaf. Pe gofynid i mi am roddi mewn byr eiriau ddesgrifiad o gymeriad y ddau, mentrwn eu desgrifio fel hyn :—Fod y naìll yn ddyn da drwg, a'r llall yn ddyn driog da. Desgrifiad rhyfedd iawn, mecìdai rhywun, a