Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. " A Owaith Gyfìawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 205.] IONAWR, 1898. [Cyf. XVIII. BARNU AR GAM. "Pa'hyd y bernwch ar garnf"—Saìm fcmrii. 2. JUEDD naturiol mewn dyn yw barnu. Nid oes nemawr 0 ddyn- ion nad ydynt yn achlysurol yn difyru eu hunain drwy eistedd mewn barn ar gymeriadau personol a gweithrediadau cyhoeddus eu cyd-ddynion. 0 fewn terfynau priodol, gall hyn fod yn oddefol a chyfreithlon. Peth cyffredin, er hyny, yw barnu ar gam. Y mae dau neu dri 0 bethau sydd yn peri fod dyn yn barnu ar gam, neu yn anghywir. 1. Aniuybodaeth.— Er ffurfio barn deg am berson, gwrthddrych, neu achos, rhaid yn gyntaf wrth wybodaeth gyflawn am y cyfryw. Nis gellir barnu prydferthwch y ddôl heb oleuni—goleuni sy'n egluro ; felly nis gellir barnu unrhyw beth yn gywir heb wybodaeth. 2. Rhagfarn.—Y mae rhagfarn yn dallu y llygaid, fel nas gallant weled yn gywir. Cenfydd llygaid rhagfarn yn aml yr hyn na sydd, a methant ganfod yr hyn sydd. Y mae y dyn sydd yn edrych trwy wydr lliwiedig yn canfod pob peth yn lliw y gwydr. Felly y rhagfarnllyd. S.Oorserch.—Pel y ceafỳdd rhagfarn bethau mewn goleuni anffafr- iol, felly canfydda serch dallbleidiol bobpeth mewn goleuni rhy ffafriol. Y mae cariad yn ddalî, ac yn cuddio lîuaws o bechodau. Y mae gor- serch at bers^nau acac bechodau yn analluogi dynion i'w hiawnfarnu. Mae yn y byd lawer o farnu ar gam. Rhoddwn rai engraffau :— I. MA.E Y SAWL SYDD YN BARNIí PeTHAU WRTH Eü HYMDDANGh osiad Allanol yn unig, yn Baunu ar Gam. Mewn llawer o bethau y mae yr allanol yn ddangoseg weddol gywir o'r mewnol. Y mae rhisgl y pren yn arddangos ei natur. Ond y mae yr allanol, yn enwedig yn nglŷn â dynion, yn aml yn gamarweiniol.