Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENAD HEDD. "A Owaith Gyfiawnder fydd Heddwch."—Esaiah. Rhif. 189.] MEDI, 1896. [Cyf. XVI. CRIST YN BEDWAR GRAS. " Doetìiineb, Cyfiawnder, Sancteiddrwydd, Prynedigaeth."—1 Cob. i. 26. 'AE dyn yn gofyn llawer o bethau er mwyn ei wneyd yn dded- wydd; ac y mae graddau ei angenion yn amrywio yn ol ei sefyllfa a'i gyrhaeddiadau. Ychydig iawn o angenion y mae y pagan yn eu teimlo. Cynydda ei angenion fel y bydd y»n dyrchafu mewn dysg a gwareiddiad. Yn gyffelyb y mae mewn crefydd ; ychydig 0 fendithion ddymuna y coelgrefyddwr a'r gangrefyddwr am danynt; ond mae perchen o grefydd Iesu Grist yn awyddu am fwynhau yn helaeth o'i hamryw fendithion mawrion. Y maent oll yn drysoredig yn Nghrist ar ei gyfer, a derbynia hwy oll yu yr helaethrwydd mwyaf drwy ofyn am danynt. Enwa Paul bedwar o'r grasau Cristionogol hyn, sydd yn wir angenrheidiol ar bob dyn ; ac os na theimla dyn chwant cryf, anwrth- wynebol, am eu meddianu, y mae mewu cyfiwr isel a pheryglus, wedi ei ddarostwng i oferedd, fel dyn mewn cystudd, heb chwant bwyd, gwaith, cyfeillach, na hyfrydwch arno. Gogoniant Cristionogaeth yw deffro enaid i deimlo ei angenion, ac i gynyrchu chwant cyfranogi o'r cyfiawnder 0 ras sydd yn y Gwaredwrar ei gyfer. Y mae ganddi gyfiawnder 0 ddarpariaeth ar gyfer aogen dyfnaf y ddynoliaeth. Y mae dynion yn amrywio yn eu cais am ras. Gellid meddwl fod Paul yn meddwl am yr amrywiaeth hyn pan yn nodi y pedwar gras uchod. 1. Doethineb.—Nis gallaf lai na meddwl fod Paul yn enwi y gras hwn yn gyntaf am mai at y Groegiaid yr ysgrifenai. Yr oeddynt hwy yn enwog am eu hymgais i feddu doethineb, a'r Corinthiaid a safeDt yn f dosbarth blaenaf yn yr ymgais. Yr oedd pobl Groeg er's oesau yn lawn o nwyd gref ac anniwaíl am ddoethineb. Yr oeddynt yn ddysg- ìdig a gwrteithiedig iawn ; mwy felly na'r holl genedloedd ereill y prvd 17