Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR A'R HANESYDD RECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOL, AC ANNIBYNOL UKDD Y RECHABIAID. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yt wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i Iwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl; i beidio na rhoddi na chynyg y cyfryw i nebarall; ac yn mhob modd i wrtlisefyll yr achosion a'r achlysurou o anghymedroldeb." CYF. V.] AWST, 1844. [Rhif. XLIX. Y LLEIDR. Dyn a'm cyfarfyddodd yn yr heol, medd B., dygodd ymaith fy Oriadur, ac a ddiang- odd; gwaeddais ar ei ol â'm holl egni, <lLleidr, lleidr, daliwch y lleidr." Mswn munyd, yr oedd oddeutu cant o wŷr ar ei warthaf,—daliasant ef, ac a'i rhoddasant y noswaith hòno yn y tŷ crwn. Boreu dra- noeth, dygwyd ef ger bron yr ynadon hedd,—anfonwyd ef i garchar, ac am ei fod yn hen droseddwr, alldudiwyd ef. "VYrth wrando ei ddedfryd o enau o Barnwr yn y brawd-lys, yr oedd pob gŵr call, da, a rhin- weddol, yn cyfiawnhau y ddedfryd, ac yn ei selio âg arwyddion wynebol, gan ddy- wedyd "Ei haeddiant ef ydyw." Ond 'eto, fy nghyfeiîlion, y mae lluaws yn y wlad yn cefnogi gwaeth lleidr na hwn,—hynach a chreulonach troseddwr, Heidr, yr hwn 6ydd, nid yn unig yn llad- rata yr Oriadur, ond hefyd yr amser a ddangosir trwyddi; yr hwn sydd yn lladrata eich arian a'r pwrs hefyd, yr hwn sydd yn eu dwyn, 'ie, un yn Uadrata eich iechyd, eich tangnefedd, eich meddwl, a'ch ded- wyddwch; a'r lleidr hwn yw y ddiodfrâg. Yr oedd Johu heidden yn \vr gonest pan ddaeth gyntaf i'ch gwasanaeth, ond chwy- chwi a'i llygrasoch, ac na ryfeddwch, gan lijny, ei fod yn awr yn talu yn ol i chwi yn eich coin eich hunain am ei lygru. Ac os goddefwch yn eich amynedd, traethaf i chwi ychydig o hanes ei ddysgeidiaeth a'i foesau, trwy yr hyn y canfyddwch ei fod, (fel llawer o blant mewn trefydd mawr) trwy gam-ddefnyddiad, gwedr ei wneuthur i yn dwyllwr, yn gelwyddwr, ac yn Ueidr,— yn annheilwng o ymddiriediad. Ond gad- | awn heibio yr alegori, a disgynwn ar beii y j matter:— ! Bwshél (yr hwn sydd yn 32ain o alwyni) ■ o haidd, os yn dda, a bwysa 56ain o bwysi, i ac wedi ei fragu 36ain o bwysi; wele yn I barod goìled mewn pwysau, 20ain pwys o'r : 56ain pwysi. Achosir y golled hou yn y | duil canlynol: yn gyntaf, mwydir yr haidd yn y dyfr-gist am 48ain o oriau; y dyben o hyn yw, er ei ddarparu i'r ail oruchwyl- iaeth. Yr oruchwyliaeth hòno yw, ei roddi yn ei wely, ac y mae yn cynwys ei luchio allan o'r dyfr-gist yn dyrau mawrion, yn j mha rai y mae yn dechreu tyfu ac egino; | ac wedi gorwedd am oddeutu 30aiu o oriau j fel hyn, aiff trwy y drydedd oruchwyliaeth, ', sef y Uorio: er mwyn i'r holl ronynau dyfu •■ i'r un faiatioli, y mae yn cael ei chwalu fel i hyn yn deneuach; ac yn mhen oddeutu y ! 12eg niwrnod (ondcofiwch, ni cheir 12eg | niwrnod nesaf i'w giîydd heb Sabbath) fe | fydd wedi tyfu digon. Yn nesaf, gosodir ef i'w grasu, a thrwy yr oruchwyliaeth yma daw yn frâg; ac yna, nid oes eisiaa ond tynu ymaith yr egiu, y rhai a elwir y llwch. Y gwahanol oruchwyliaethau hyn a achosant y golled flaenorol. Yn nesaf, dangosaf i chwi golled arall, a gymer le wrth ei ddarllaw,—y mae yn fyr fel y cardyn: yn gyntaf, meHr y brà^ nid yn flawd, ond yn lled fras; yn nesa^