Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR AR HANESYDD RECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOL, AC ANNIBYNOL URDD Y RECHABIAID. ARDYSTIAD CYMANFA DD1EWB8TOL GWYNEDD. ' Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddoli lwyr-ymwrtbod â Gwlybyroedd Meddwawl ; i beiilio na rhoddi na chynyg ycyfryw i neb arall; ac y'mhob modd i wrtlisefyli yrathosion a'r achlysuron o anghymedroldeb." CYF. V.] MAI, 1844. [Rhif. XLVI. PAHAM Y GELWIR CHWI YN RECHABIAID ? Hybarch Olygydd,—Y mae y geiriau uchod yn cael eu gofyn yn fynych; ond anfynyeh y maent yn cael eu hateb yn bri- odol, a hyny o ddiffyg ystyried y tebygol- rwydd sydd rhwng Rechabiaid yr oes bon a Rechabiaid Jeremiah. Yr ydym ni, fel Cymdeithas, wedi dewis enw ysgrythyrol, gan fod ein hegwyddorion felly. Gwir fod llawer ag enwau ysgrythyrol arnynt; ond eto credwyf pe buasai y fath greaduriaid anwybodus heb eu galw felly erioed, na buasai eu gwarth mor amlwg. Gelwir am- bell un yn Foses, pan mae ei dymherau yn llawer tebycach i eiddo y dieflig tua gwlad y Gadareniaid er's llawer dydd. Y mae arall yn cael ei alw Solomon, pan y gellir cynwys ei wybodaeth mewn gwniadur genethig deir-blwydd oed; ond nid felly y mae gyda golwg ar Rechabiaid, o herwydd y mae ynddynt bethau, îe, lawer o bethau, yn cyfateb mor nodedig i Rechabiaid y Bibl, fel yr ymddengys na allesid bod yn fwy ffawdus yn newisiad enw nag y buom ni yn newisiad hwn. Nid ydym yn pro- ffesu tebygolrwydd iddynt yn mhob peth, ond craffwch ar rai o honynt. 1. Yn eu hymwrthodiad gwirfoddol à (jwlybon meddwol. Yr oeddynt hw y ar or- chymyn eu tad yn gwrthod y cyfryw gyda threm ddirmygus, ac y mae Rechabiaid y bedwaredd-ganif-ar-bymtheg yn foddlon cerdded law-yn-llaw â hwy yn y pwnc yma. Eu motto hwy oedd, " Nid yfwn ni ddim gwin," a gwn fod pob Rechab cywir yn yr oes hon yn foddlon ysgrifaw yr un arwyddair ar ei ddwylaw ac ar ei dalcen, a dewisai yn hytrach fod i'r geiriau bychain " Nid yfais i ddim gwin" i gael eu cerfio ar garreg ei fedd, na phe cyfodid cofadail iddo o feini mynor caboledig. Dywedai y rhai hyny wrth y proffwyd, nad yfent win dros eu lioll ddyddiau, yr hyn yn ddiau a Olygai mai nid rhyw Ddirwestwyr chwech neu ddeuddeg mis oeddynt, ond rhai " dros eu holl ddyddiau:" boddlonent i farw yn ngafael yr egwyddorion a broffesent ya fyw. Pan oedd y Gymdeithas Ddirwestol yn dechreu, deuai un yn mlaen, a dodai ei enw am dri mis, arall am chwech, &c.; ond am danoch chwi, Rechabiaid, credwyf eich bod wedi cael y fath olwg ar y trefhiant Uwyr- ymwrthodawl, nes ydych yn barod i waeddi fel eich brodyr yn nyddiau Jeremiah, " Dirwestwyr dros ein hoíl adyddiau ydym ni." Nis gall anrhydedd gorsedd ymher- odrawl eich hud-ddenu i wadu eich proffes; ni chyfnewidiech harddwch eich Pabell am eiddo y palas breiniol; pe byddai tomenydd o aur coeth ar eich llwybrau, aech trostynt gyda threm ddirmygus, yn hytrach na gwadu eich egwyddorion; 'ie, boddlonech ddyoddef grym y tân, a min y cledd, yn hytrach na rhoddi yr ymdrech ogoneddusi fyny. Am bob Rechab cywir ei egwyddor