Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR HANESYDD BECHABAIDD. DAN NAWDD Y GYMANFA DDIRWESTOL, AC ANNIBYNOL ÜRDD Y RECHABIAID, ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Yt wyf yn j'tnrwymo jrn 'wirfoddoli lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl; îbeidio na rlioddi na chynyg y cyfryw i ueb arall; ac y'mhob modd i wrthsefyll yr aehosion a'r achlysuron o aoghymedroldeb.'' CYF. V.] MAWRTH, 1844. [Rhif. XLIV. BRWYDR DIRWEST. Dirwest sydd ddiwygiad oddi wrth y trueni o feddwdod, cyfeddaeh, a diota, yr hyn oedd wedi niyned yn arferiad mor gyffredin, fel nad oedd dim yn cael ei gario yn mlaen hebddi, na geni, na bedyddio, na phriodi, na chladdu, na phrynu,na gwerthu, na derbyn, na thalu, er nad oedd o Ies yn y byd i'r naill na'r llall; ond arferiad gostus a llygredig, yn magu llj'gredigaeth yn y wlad, ac yn cynyddu pob trueni yn mhlith pob graddau a sefyllfa o ddynion yn y byd ac yn yr eglwys. Y mae yn achos o ofid a galar i lawer gwraig hawddgar, ac i lawer mam dyner, ac yn achos o dylodi i lawer teulu, ie, newyn a noethni; a mwy na hyny, y mae yn achos o wendid a marwol- aeth i lawer mil bob blwyddyn. Er mor ddrwg ac annaturiol ydyw rhyfel, y mae hwn yn waeth, ac yn Iladd rawy o ddynion na'r cleddyf a'r haint, ac nag un math o o ddinystr arall. Y mae yn achos o fod dynion yn myned yn hunan-leiddiaid—y maent yn yfed eu dinystr eu lmnain, heb neb ond eu hunaiu yn ei achosi. O drueni! bod neb mor ynfyd a hyn ; ond dyma fel y mae, ysywaeth, ac yn waeth eto, sef heb un gobaith am ddim ond trueni tragwyddoh ar ol bod yn porthi y chwant o flys yn y fuchedd hon am ychydig amser. Pwy galon na ofidia o achos hyn ? A phwy na wna bob peth ar a allo er gwellâd? Pwy ni chyfyd gyda ni yn erbyn y rhai dryg- ionus? Er syndod, y mae llawer, gymaint a phedair byddin.—Y front ranh ydyw Pregethwyr yr efengyl, sef y rhai nad ydynt Ddirwestwyr ; yr ail ydyw Blaenor- iaid eglwys Dduw; y drydedd ydyw pro- ffeswyr crefydd ; a'r bedwaredd ydyw dyn- ion da a synwyrol, cyfrifol mewn gwlad ac ardal, ag sydd yn arferol o gymeryd eu hanner peintiau yn awr ac yn y man, heb feddwi. Dyma y byddinoedd sydd gan Bacchus ar y maes yn erbyn Dirwest. Y mae y byddinoedd yma yn sefyll y naill wrth gefn y llall; sef gwŷr yr hanner peintiau j n olaf, ac yn edrych ar broffes- wyr, a'r proffeswyr yn edrych ar eu blaen- oriaid, a'r blaenoriaid yn edrych ar y pregethwyr, a'r pregethwyr yn dywedyd fel y rhai hyny gynt, " Cyrchaf win, ym- lanwn o ddiod gadarn, a bydd y fory megys heddyw, a mwy o lawer iawn." Ond fe ddywed rhyw un, Pa le y mae y Bragwr, y Distyllwr, a'r Tafarnwr? Yr ateb yw, Nid oes gan y rhai hyny ddim amser i ddyfod i'r maes, gan eu bod yn parotoi eu supply i'r byddinoedd sydd ar y maes gan Bacchus yn erbyn Dirwest, i'w cefnogi i ddal ati am ronyn. Ond yn eu herbyn y mae y frwydr yn troi, ac amryw yngadael y fyddin ac yn newid ochr. Y mae amryw o'r front rank wedi newid eu hochr yn ddiweddar, ac ymuno â Dirwest; a phe caem ni orchfygu hon, byddai yn hawdd cael y tair ereill i newid eu hochr; oblegid hon ydyw asgwrn cefn yr hen fasnach