Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRWESTOl, GWYNEDD. " Yr wyfyn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybyroedd Meddwawl ; ibei.liona rhoddi na chynyg y cyfryw i neb arall; ac y'mhob modd i wrtiisefyll yrachosion a'r achlysuron o Anghymedroldeb." CYF. IV. J CHWEFROR, 1843. [Rhif. XXXI. MEDDWDOD—PRIF ELYN PRYDAIN !! PREGETH AR ESAU LIX. 19. (Parhad o Tudal. 10.) Pa fodd i usod y rhan yma o fy anerchiad ger eich bronau, nis gwn. Y rhai hyny o honoch agsydd wedi gweled hir fiynyddau ar y ddaear, edrychwch o'eh auigylch cyn belled ag yr arweinia eich meddwl a'ch còf chwi, a meddyliwch am effeithiau ofnadwy yfed i ormodedd. Gofynaf i chwi y 45 oed, yn mhale y mae y rhaia fu yn cyd-chwar- eu á chwi yn nyddiau eich mebyd? eich cyd-ysgolorion ? cymdeithion eich ieuenc- tyd, a'ch hen gyfeillion ? Onid ydych yn barod i adrodd rhyw anffawd a ddaeth idd- yut trwy feddwdod, o fewn cylcheich cyd- nabyddiaeth? Yn mha le y mae y tŷ na bu un farw ynddo ? Dedwydd yw y teulu a ddiangodd. Ha ! pa le y mae y dagrau a gollir wrth feddwl am y difrod ? Meddyl- iaf y gallai rhai o honoch lenwi cyfrolau gydag hanesion o waëau a ddigwyddasant yn y modd yma yn mhlith eich perthynas- au, eich cyfeillion, a'ch cyfoedion, trwy yfed i ormodedd. Medr eich pregethwr adrodd wrthych lawer o ddigwyddiadau galarus a welodd ef. A gaiff efe adrodd i chwi ddau neu dri 'o lawer, o ddigwyddiadau galarus sydd yn dyfod i'w gofynawr? Pan ceddwn yn fachgen yn cael fy arwain gan fy nhad i dỳ gweddi, yr wyf yn cofio cyfarfod yno â dyn hynod o'r syml, a'r olwg arno yn dra chre» fyddol. Yn mhen llawer o flynyddau, wedi iddo, tebygid, gael ei gadarnhau mewn gwir grefydd a duwioldeb, trwy ei fod yn ym- weled â ffeiriau y gymydogaeth, yn radd- ol efe a syrthiodd i'r pechod o feddwdod. Ar ol iddo lymeitian am b^ch amser, a hyny er gofid i'w wraig a'i deulu, efe a aeth yn feddwyn cyhoeddus. Fel yr'oedd ef un nos Sadwrn yn dychwelyd o farchnad P------, mewn cyflwr o feddwdod, a hyny ganol nos, gorweddodd ar y ffordd, a'r bore dranoeth cafwyd ef yn farw yn y fan. Masnachwr parchus arall, yr hwn hefyd oedd yn bregethwr cynorthwyol defnydd- iol, (byddai arferol o ymweled â thŷ fy nhad yn fyuych, gwraig yr hwn oedd rin- weddol a duwiol, ac yn gyfeilles fynwesol ä fy mam,) a ymroddodd i'r pechod hwn, er ei rybuddio, wylo uwch ei ben, ei hir oddef, ei gymeriad a'i fasnach yn cael cu dinystrio ; aeth yn ddyfnach ddyfnach i'r gors; ac a wysiwyd i dragywyddoldeb, trwy angeu rhy ofnadwy i'w adrodd; a phe gwnawn hyny, byddai yn ddigon er llenwi yr holl dyrfa â dychryn 1 Pan oeddwn yn genhadwr yn Neheudir Cymru Newydd, cyfarfyddais â Saesones, mwy parchus na'i chymydogesau. Nidoeddhi yn un o fy ngwrandawyr cyson yn unig, ond yr o^dd hi yn hynod o'r defnyddiol yn fy nghyn- orthwyo i enyn y fflam yn ereill. Y ddiod feddwol a'i swynodd. Pregethais ddeu-