Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD, ' Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beitlio na rhoddi na chynyg y cyfryw 'i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyfl yr achosion a'r achlysuron o Annghy- medroldeb." CYF. III.] RHAGFYR, 1842. [RHIF. XXIX. NODIADAU AR DDIRWEST A MEDDWDOD. GWYDDOM oll fod genym un achos ag y dylem ei wrthwynebu, ac un arall ag y dylem ei amddiffyn. Yr achos a wrthwyn- ebir genym yw meddwdod yn ei gychwyn- iad, ei effeithiau, a'i ganlyniadau drwg a niweidiol. Y mae meddwdod yn ddrwg yn ei gychwyniad: y mae'r hanner peint cyntaf yn arwain i'r ail, a'r ail i'r trydydd, &c. hyd feddwdod. Y mae yr ymrysonau, yr ymladdfeydd, yr hunan-laddiadau, y marwolaethau disymwth sy'n cyfarfod â'r meddwon, a'r gofidus deimladau agy sydd gan lawer teulu o'i arswydlon effeithiau yn ddigonol, (tebygaf,) er profi ei fod yn bech- od o'r mwyaf, yn ngwyneb y goleuni pre- senol, i ni ymarfer â'r pethäu ag sydd yn dwyn cymaint o aflwydd i ran dynolryw. Yn nesaf a bleidir genym yw yr achos dirwestol. Y pethau y ceisiaf sylwi ychydig arnynt yn mherthynas i'r Gym- deithas Ddirwestol yw yn I. Rhagoroldeb y Gymdeithas. II. Fod angenrheidrwydd am y fath Gymdeithas. III. Ei bod yn ddyledswydd ac yn fraint i ni ymuno â hi a'i phleidio gyda'r galon wresocaf. 1. Ei rhagoroldeb. 1. Y mae ei rhagor- oldeb i'w ganfod yn y ddwy brif egwyddor fawr a gynwysa,—" Na wna i ti dy hun ddim niwaid :" " Câr dy gymydog fel ti dy huu." 2. Y mae ei rhagoroldeb i'w ganfod yn ei hamcan a'i dyben, sef sobri y meddwon, a gwaredu y wlad rhag ymarfer â'r pethau niweidiol hyny ag sydd yn meddwi dynion, a thrwy ymattal oddi wrthynt ddwyn go- goniant i enw'r Arglwydd. 3. Y mae ei rhagoroldeb i'w ganfod yn ei phurdeb: cariad yw ei rhwymyn a'i hundeb, yn nghyda chywirdeb ei haelodau. 4. Y mae ei rhagoroldeb i'w ganfod yn ei nerth a'i chadernyd : y mae ei nerth yn gynwysedig o fod Arglwydd y lluoedd o'i pnlaid; "ac os yw Duw trosom, pwy a all fod i'n herbyn ?" ac hefyd yn lluosogrwydd ei haelodau. 5. Y mae ei rhagoroldeb i'w ganfod yn ei rheolau. Yn mhlith yr amrywiol, enwaf y rhai canlynol: (1.) Na wna dduw o'th fol, o'th chwant, na'th flys. (2.) Na fydded i ti gamddefnyddio dy aelodau i fyned i ymofyn am win cymysg- edig, a gwlybyion meddwol, er porthi dy chwant a'th flys pechadurus; ac nac abertha dy feddiannau dy hun a'th gysur- on, a chysuron dy deulu, os oes genyt: y pethau a roddes Duw i ti yn fanteision i'w ogoneddu, a thrwy eu camddefnyddio felly yn lladrata yr addoliad a'r gogoniant sydd yn deilwng i Dduw, a'i drawsfeddiannu i ti dy hun : oblegid y mae Duw yn eiddigedd- us am ei addoliad, ac ni rydd ei ogoniant i arall, na'i fawl i dduwiau.meddwol; ond efe a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bedwaredd gen- hedlaeth o'r rhai a'i casant ef trwy feddw- dod. (3.) Na feddwer di gan wlybyroedd meddwol, rhag i ti ddyfod yn agored i'r achliYSuron ag sydd yn arwain dynion i dyngu anudon, ac i gymeryd enw Duw yn ofer; canys ni ddieuoga yr Arglwydd y neb a wnelo felly. (4.) Nac ŷf win na diod gadarn, rhag i ti trwy hyny anaddasu dy hun i gadw yn santaidd y dydd Sabboth, ac i gymeryd mewn llaw orchwylion perthynol i'r dydd hwnw, megys cymeryd gofal dy deulu, eu