Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTWR. DAN NAWDD CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD, ' Yr wyf yu ymrwymo yr. wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol ; i beidii chynyg y cyfryw i tieb aiatt; ao yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achly; medroldeb" lio na rhoddi na suron o Annghy- CYF. III.] MEDI, 1642. fRHIF. XXVI. PREGETH AR B.HUF. IX. 3, I DDANGOS YR EGWYDDOR DDIRWESTOL YN YSGRYTHY7R0L. Gan y parch. s. EDWARDS, MachYNLí.ETH. TRYSORFA o egwyddorion yw y Bibl. Mae egwyddotion da a drwg yn cael eu dangos yn y Bibl; y naill yn cael eu cy- meradwyo, a'r ileilleu haimghymeradwyo. Prawf-lyfr yw y Bibl ; ger ei fron y geìlir profi pob egwyddor : o ganlyniad gellir profi yr egwyddor Ddirwestol wrtho. Y mae Dirwest yn rhwym o fod yn dda neu yn ddrwg; yna y mae yn cael ei chymer- adwyo neu ei hannghyrneradwyo gan y RSbl. Yn llys y Bibl y mae üuw wedi meddwl i bob mater ag sydd i'w bender- fynu yn y byd hwn gael ei benderfynu; am hj ny y dy wed, " At y gyíraith ac at y dystiolaeth." Pe gwadem hyn, gwadem ar unwaith ddigonolrwydd y Bibl i fod yn an- nogaethydd rhinwedd, attalydd drwg, a rheol bywyd dyn. Yn awr, naturiol yw gofyn, Beth yw yr egwyddor Ddirwestol ? Y mae yu cynwys aberthu y ìleiaf i'r mwyaf. A oes son am aberthn y lleiaf i'r mwyaf yn y Bibl ? Oes. Clywaf Paul yn gosod hyn allan pan yn dywedyd, " Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn lleshau." Dywed y diottwr, Pob peth sydd gyfreithlon i mi; ond ni ddywed, Nid yw pob peth yn lleshau. Dengys Paul yn mhellach fod yn gyfreithlon iddo fwyta cig, ond dywed fod yn well ganddo beidio bwyta cig byth na thramgwyddo ei frawd gwan wrth ei fwyta, Y mae yr egwyddor Ddirwestol yn y dangosiad o honi yn y testyn, yn cynwys parodrwydd medäwl i wneyd a dyoddef peth er adferiad y byd, a Ileshad cyfTredin- ol. Y mae pob Dirwestwr egwyddorol yn barod i wneyd a dyoddef pob peth er ad- feriad y byd, a lleshad cyffredinol. Dyben holl weinyddiadau Duw at y byd wedi y cwymp yw ei adferu ; ac y mae aberthu y lleiaf i'r mwyaf yn ei holl weinjrddiadau tuag at y byd, yr hyn beth a ddengys fod yr egwyddor Ddirwestol yn mynwes Duw. Gwnaeth Duw aberth i'r byd, sef rhoddi ei Fab. Ac yr oedd aberthu y lleiaf i'r mwyaf hyd yn nod yn rhoddiad y Mab. Rhoddi y Mab oedd y lîeiaf; cadw y byd, a gogoniant Duw, oedd y mwyaf: y mae y lleiaf a'r mwyaf yn anrhaethadwy fawr i ni, ond nid felly i Dduw. Ond er föd y peth lleiaf a'r mwyaf yn ddau eithafoedd anfeidrol i ni, y mae natur pethau a chyfiawnder yn dangos fod y lleiaf a'r mwyaf yma ; oblegid y mae cyfiawnder yn ol ei swydd yn gofalu fod y lleiaf i gael ei aberthu i'r mwyaf yn mhob peth. Yn awr, y mae cyfiawnder, iechydwriaeth, a dirwest, yn cyd-ddywedyd, Aberther y lleiaf i'r mwyaf. A oes lleiaf a mwyaf yn gysylltiedig â'r gwlybyroedd meddwoì ? Oes. Y mae y gwlybyroedd wedi bod yn gyfryngau weithiau i amddifíyn iechyd ; ond y maent wedi bod fwy o weithiau yn gyfryngau i yspeilio iechyd. Dichon eu bod wedi cadw bywydau; ond y maent wedi colli miloedd yn fwy o fywydau. Y maent wedi cyfoethogi llawer; ond wedi tylodi mwy. Y maent wedi bod yu fantais rai prydiau mewn rhai am*