Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAN ÜCAWDD CTMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. " Ffncyth yr Ysbryd yw—Dirwest/ Ci'f. II.] TACHWEDD, 1841. [Rhif. XVI. ARDYSTIAD CYMANFA DIRWEST GWYNEDD. " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddoì i Iwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwoi ; i beidio na rhoildi na chyriijg y cyfryw i neb arall; ac yn mhub rnodd i wrlh- sefyllyr acltosion a'r achìysuron o Annghymedroìdeb." PREÖETH ODDIAR EXOD, XXI. 29, GAN Y PARCH. T. SAMUEL SPEAR, Lasingburg, America. " Ondos yr £ch oedd yn cornio o'r blaen, a hyny trwy dystion gwedi eí hvsbysui'w berchenog ; ac efe heb ei gadw et, oud lludd o hono ŵr neu wraig". yr ŷch a íabyddjr, a'i berclieuog- a roddir i farwolaeth." UARWEINIAD I MEWN. N o'r cyfreithiau perthynol i drefniant gwladol y genedl Iuddewig yw y testyn. Daeth iddynt hwy oddiwrth Dduw trwy gyfryngdod Moses. Trwy y rheol o hrisio trosedd wrth y gospgysylltiedig, y mae dyn yma yn cael ei ddyfarnu yn Uofrydd, a chan hyny yn gosbadwy â marwolaeth ar bedair o ammodau : Y gyntafyw, mai efo yw perchenog yr ỳch oedd yn cornio o'r blaen ; fod ganddo yn ei feddiant anifail peryglus. Yr ail yw, eifod wedi cael ei wneydyn hysbys o hyny, naill ai trwy ei sylw ei hun, neu dystiolaeth ereilL Rhaid i wybodaeth o fod yr anifail yn cornio o'r blaen, gael ei olrhain adref i feddwl y perchenog. Y drydedd ammod y w, iddo, wedi cael gwybodaeth, esgeuluso diogelu yr anifaiL, " ac efe heb ei gadw ef." Sylwch, nid ddarfod iddo droi yr anifail allan, gyda'r bwriad neu ddymuniad iddo allu lladd rhyw ddyn penodol. Nid oes malais rhagjwriadol yn cael ei gynwys, fel y dywed y cyíreithwyr. Nid ddarfod iddo droi yr ŷch allan trwy wybod- aeth, tebygoliaeth, neu sicrwydd, y byddai iddo mewn gwirionedd ladd rhyw-un. Nid ddarfod iddo ei ollwng yn rhydd o gwbl. Nid yw yn ddim ond yn unig esgeuluso diogelu yr anifail, ac yntau yn gwybod eij'od yn arfer cornio. Yr amnwd ddiweddafyvr, ddarfod i*r ŷch heb ei ddiogelu felly, mewn gwirionedd, ladd rhyw ddyn. Ar y pedair ammodau hyn bernid perchenog yr ŷch yn lìofrydd ar dir esgeulusdra, ac yr oedd yn gosbadwy â marwolaeth. Dyma sefyllfa y gyfraith hon, yr hon a roddodd Duw i Moses i lywodraethu pobl Israel. Y mae ei hawdwr yn sicrhad digonol am ei huniondeb. Mae Uofryddiaeth yn cael ei ystyried yn gyfiawn fel y trosedd uchaf adnabyddus i gyfraith ddynol. Gwna golygiad byr o'r gwirionedd ar y pwnc hwn ryddhau ein hym- chwil dyfodol. Goddefwch i mi, gan hyny, am fynyd, i ystyried amryw egwyddorion eithaf adnabyddus perthynol iddo, y rhai a sefydlwyd gan gyd-daraM'iad y byd gwar- eiddedig. Syr Wm. Blackstone a ddarlunia,mai " dyn-ìaddial yw lladd rhyw ddyn."—Yn ol ei osodiadau ef, y mae o dri math ; 1. Cyjìawn, megys pan y bo 6wyddog cyffredin yn crogi troseddwr condemniedig : 2. Esgeuluwi, megys pan îeddir un yn ddamweiniol, nêu mewa