Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BIBWE8TWB. DAN NAWDD CYMANFA DDIR\TESTOL GWYNEDD. ** Ffrwyth yr Ysbryd yw—Derwest." Cyf. II.] HYDREF, 1841. [Rhif. XV. ARDYSTIAD CYMANFA DLRWEST GWYNEDD. " Yr tayf yn ymrwymo yn wirfoddol i Iwyr-ymwrihod 6 Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob tnodd i wrth- sefyü yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." SYLWEDD PREGETH ODDIAR 1 CORINTHIAID VII. 31. GAN Y Dr. N. BANGS, O'R AMERICA. Mr. GoLYGYDD,—Cyfieithais v svlwedd Pregeth ganlynol allan o'r " Christian Adcoccte and Journal." Pregethwyd hi gau y Dr. N. Ban^rs, un o'r gweinidogion Wcsleyaidd yn Nghaerefrog Newydd, ar v nos Sabboth gyntaf yn Chwefror diweddaf. Ymddengys ei hod yn un o gyfres o bregethau Dirwestol a draddodwyd yn olynol-ddylytiol ar nos Sabbothau, gan Weiiùdogion o wahanol enwadau erefyddol yn y ddinas hòno. Nid ÿw ein brodyr yr ochr draw i'r môr yn ystyried y Pwlpudaü a'r Sabbothau yn rhy sanfaidd 1 ddadleu hawliau Dirwest, yn gy*tal ag achwion da ereill. Prysured yr amserpan y byddo felly hefyd yn Nghymru gyda phob emwad cr«fyddol. W. H. RlCHABDS. " Ar rhai a arferant y byd hwn, megys heb ei gam arfer. Canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio." JL MAE pob pechod gyda golwg ar beth-! au y byd hwn yn gynwysedig raewn cam-1 ddefnyddiad o greaduriaid da Duw, a gwir j brofiedydd moesoldeb mewn perthynas, iddynt yw iawn ddefnyddiad o honynt. Nid yw bechod i fwynhau y byd prydferth hwn, i foddhau ein harchwaeth naturiol, i fwyta ac i vfed pethau llesol, ac i fwynhau o ffrwyth ein Uafur. Y mae pechod yn gynwysedig yn yr ymarferiad o bethau cyfreithlon i ormodedd, ac mewn ymarfer- iad i unrhyw radd o bethau niweidiol a di- nystriol, ac felly yr ydwyf yn ystyried yr arferiad o'r gwlybyron meddwol. Ar y peth hwn, rhaid i ni gael rheol gyhoeddus o foesoldeb. Cynhwyia y Bibl y rheol, ond rhaid i'r rheol hon fod yn welcdig mewn rhyw gorph byw o bobl, a rhaid i'r corff hwnw fod yn eglwys. Rhaid i'r eglwys ffurfio'r wir reol ar Ddirwest, a rhaid i'r rheol hòno fod, hollol ymwrthod- iad â'r gwlybyron meddwol. I. Dyma y dyben i'r hwn y ffurfiwyd yr eglwys, sef, i fod yn oleuni i'r byd ar bob gwrthddrych da. Ond rhaid iddi osod i fyny reol berffaith, namyn nis atebay dyben i'r hwn y ffurfiwyd hi; ac nid oes reol berffaith gyda Dirwest, ond hollol ym- wrthodiad â'r gwlybyron meddwol. II. Y mae yr eglwys i adlewyrchu go- goniant Duw. Hyn nis gall ei wneyd onid yw yn gosod i fyny reol berffaith o foesol- deb. Y mae gogoniant Duw yn cael ei gy- mylu trwy arferiad â'r gwlybyron medd- wol. Rhaid i'r eglwys, gan hyny, er go- goneddu Duw, eu bwrw hwynt allan o honi. III. Bwriadwyd hi gan Dduw i fod yn offeryn yn ei law i ddiwygio'r byd; ond os bydd yn eglwys ddiotgar, os bydd ei gweinidogion a'i haelodau yn arferyd y gwlybyron meddwol, beth a all hi ei wneyd erdiwygio'r byd?. Os â at y tyngwr i'w geryddu, dywed, "Peidiaf a thyngu pan beidioch chwithau a diota : os â at y torwr