Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

6è MRS. MARY DAVIES. î'w rhestru, y mae yn amlwg na bu erioed angen argyhoeddi dyn fod cantorion a cherddorion ymysg ei wir gymwynaswyr. O'r cymwynaswyr hyn y mae Cymru, gwlad y Gân, wedi bod, ac yn parhau i fod, mor gyfoethog fel y mae yn gallu cyfranu yn dda at angen cenhedloedd eraill, ac wrth wneyd hyny yn derbyn yn ol ei chyfiawn daledigaeth mewn parch ac anrhydedd. \ mysg y rhai hyn sydd wedi enill bri i'w gwlad yn gystal ag iddynt eu hunain yn y ffordd yna, saif enw Mary Davies,—obìegid " Mary Davies " yw, ac a fydd byth i'w hedmygwyr—yn y rhestr fiaenaf. Er mai yn Llundain y ganed hi ac y treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes, gwyr pawb mai Cymraes o galon yn gystal ag o waed ydyw, ac mai fel cantores Gymreig yr enillodd ei safie uchel yn y byd cerddorol. Ymddengys i Mrs. Davies etifeddu ei thalent gerddorol oddiwrth ei thad,—boneddwr sydd yn adnabyddus fel cerddor yn gystal ag fe* cerfiunydd,—ac oddiwrth ei thaid, tad ei thad, yr hwn a fu am lawer blwyddyn yn arweinydd y canu yn Pontmorlais, Merthyr. Daeth ei thalent i'r golwg yn foreu, ac yn naw oed yr oedd yn aelod o Ddosbarth Canu a gynhelid gan ei thad ynglyn â'r capel. Yn ddeuddeg oed yr oedd yn canu yn y cyfartodydd llenyddol, ac yn rhoddi addewid am yr hyn oedd i ddyfod. Pan yn dair-ar-ddeg yr oedd ei meistrolaeth ar y bérdoneg y fath fel yr ymgymerodd y Cymro gynes-galon Mr. Brinley Richards a rhoddi addysg iddi yn ddidâl, ac oddeutu yr un adeg rhoddodd Miss Edith Wynne a Mrs. Watts-Hughes brawfion gwerth- fawr o'u disgwyliadau uchel wrth y gantores ieuanc, trwy ei hyfforddi a dadblygu ei llais. Ac ymhen dwy flynedd yr oedd y dadblygiad y fath fel y gwahoddodd Mr. Brinley Richards hi i ganu yn un o'i gyngherdd- au ef yn Hanover Square, a daeth derbyniad calonogol iawn i'w rhan. Y fiwyddyn ganlynol, enillodd Mary Davies Ysgoloriaeth oedd newydd ei sefydlu gan Gymro gwladgar arall—M'r. John Thomas, telynor ei Mawrhydi. Ysgoloriaeth ydoedd yn y Royal Academy am dair blynedd, ac yno y treuliodd Mary Davies y blynyddoedd nesaf gan wneyd defnydd o bob moddion o addysg a diwylliant. a uhan lwyddo bob cam. Y fìwyddyn gyntaf enillodd y bronze medal; yr ail, y medal arian, a'r drydedd, medal aur a gwobr o £zo, fel y gantores oreu o'r tri chant oedd yn y sefydliad. Nid llwyddiant hawdd ei gyraedd ydoedd yr un yna, golygai ymroddiad dygn a di-ildio, ac yr oedd yn amlwg o'r dechreu fod y Gymraes ieuanc yn feddianol ar yr athrylith sydd wedi ei desgrifio fel " gallu diderfyn i gymeryd trafferth." Wedi gadael yr Academy, etholwyd hi yn A.R.A., ac er 1882 y mae ganddi hawl i'r teitl a'r anrhydedd cyfiawn fel R. A. Cyn i'w thymor yn yr Academy ddyfod i ben, yr oedd Mary Davies wedi gwneyd lle iddi ei hun yn y Baîlad Concerts yn y Brifddinaá, ac yn y blynyddoedd dilynol daeth i gael ei chydnabod fel un o'r rhai goreu, os nad yr oreu yn y deyrnas gyda y caneuon poblogaidd hyny, ac hefyd gyda hen ganeuon Lloegr, Ysgotland, a Chymru. Enwogodd ei hua yn gynar hefyd gyda rhai o brif weithiau Mendelssohn, Spohr, Gouaod, Weber, Sallivan, a chyfansoddwyr clasurol eraill. Mewn Oratorios hefyd, y mae er's blynyddoddd wedi cyrhaedd safle uchel, ac wedi cymsryd rhan mewn amryw yn mhrif drefyddy deyrnas. Enillodd boblogr^ydd arbenig fel Mi^gjruite yn " Faust" Berlioz. Yn