Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ciais Riu'dJid. Cyf 1J TACHWEDD, 1U02. [Rhif. 8.' Pregeth gan y Golygydd. 8t. Matthew xxii. 42.—" Beth a dybygwch chwi am Grist?" Gellir galw y bennod hon yn bennod y cwestiynau. Ceir pedwar ohonynt; tri wedi eu gofyn gan elynion yr Arglwydd Iesu, a'r lla.ll ganddo Ef ei hunan. Un heb ei ail am ateb cwestiynau oedd Mab y Dyn. I ddynion gonest, awyddus arn oleuni, rhoddai atebion íyddai yn taflu ffrwd o oleuni hyd at galon y pwnc. Ac wrth ateb rhagrithwyr, dynion yn holi oddiar falais, a chyda'r bwriad o'i faglu, medrai droi yr ymddyddan fel ag i adeiladu y dysgyblion, ac i ddinoethi calonau ei erlidwyr. Ceir engreiphtiau rhagorol o hyny yn y bennod hon. Dro ar ol tro daw dynion ato gyda chwestiynau cyfrwys, wedi eu Uunio o bwrpas i'w rwydo Ef yn ei ymadroddion. Ond bu raid iddynt ymadael yn siomedig eu hamcan, a chan ryfeddu at ddoethineb yr Athraw. Y mae astudio ei ífordd Ef o ateb cwestiynau pobl eraill yn foddion parotoad i ni gogyfer âg ateb y cwestiwn hwn o'i eiddo Ef—" Beth a dybygwch chwi am Grist ?" Yr engraipht gyntaf yn y bennod hon ydyw j^mddyddan a fu rhyngddo un diwrnod â rhai o'r Phariseaid. Daethant ato ar ol ymgynghori â'u gilydd, a chan gymeryd gyda hwynt rai o'r Herodianiaid. Ac meddant wrtho, " Athraw, ni a wyddom Dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ífordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb : oblegyd nid wyt Ti yn edrych ar wyneb dynion." Gwirionedd bob gair, ond ar eu gwefusau hwynt gweniaith ddieflig! Nid oeddynt yn credu yr un gair a ddywedent, eu hunig amcan oedd gwneud abwyd i guddio bach. Ac ar ol diarfogi yr Athraw, fel y tybient, y maent yn gofyn eu cwestiwn, " Beth yr wyt Ti yn ei dybied ? Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Ceasar, ai nid yw ?" Dyma'r cwestiwn dichell- ddrwg. Os y dywedai " Cyfreithlawn," yr oedd y Phariseaid yn barod i'w wrthbrofi allan o gyfraith Moses. Os y dywedai " Annghyfreithlawn," yr oedd yr Herodianiaid wrth law i'w gyhuddo o wrthryfel yn erbyn Ceasar. Beth bynag a ddywedai, yr oedd yn y ddalfa gan un o'r pleidiau. Ond arosẃch am fomenfc. Meddai wrfchynfc, " Dangoswch i mi arian y deyrnged." I * ;