Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clais Rfipddìd. Gyf III] TACHWEDD, 1904. [Rhif. 8 44 Dywediadau yr Iesu." Saith neu wyth mlynedd yn ôl.crewyd cryn lawer o chwilfryd- edd a chyffro, yn mysg ysgolheigion Beiblaidd, gan ddargan- fyddiad a wnaed mewn cwr pellenig o wlad yr Aipht. Dywedid fod hen gasgliad colledig o ddywediadau yr Arglwydd Iesu wedi ei gloddio allan o blith adfaelion un o'r dinasoedd boreuol. Anfonwyd ef drosodd i'r wlad hon, ac yn fuan wedi hyny cyhoeddwyd ef yn gyfrol fechan, gyda rhagymadrodd a nodiadau o eiddo y darganfyddwyr. Ac fel y gellid disgwyl, teimlai llawer ddyddordeb annghyffredin ynddo. Ar ol ei chwilio, yr oedd y beirniaid goreu, bron yn ddieithriad, yn datgan o blaid ei ddilysrwydd. Credent ei fod yn gasgliad o ddywediadau gwirioneddol yr Athraw Mawr; nid, hwyrach, yn hollol fel y llefarwyd hwynt ganddo Ef, ond er hyny. yn dangos digon o'i ddelw i'w gwneud yn ebion diamheuol o eiddo yr Iesu. Ac yn awr, dim ond ychydig fisoedd yn ol, dyma dwysged arall o ddy ..ediadau cyífelyb, wedi eu darganfod yn yr un lle, gan yr un dynion. Diau genym yr hoffai ein darllenwyr wybod ychwaneg yn eu cylch, beth yw eu natur? Yn mha le, a pha fodd y caed o hyd iddynt ? Ni lefarodd dyn erioed fel y gwnai Efe, ac i bob Cristion sydd yn adnabod ei lais Ef, ac yn arfer prisio ei eiriau yn well " na miloedd o arian ac aur," nid mater dibwys ydyw cael ar ddeall fod rhagor o'i ymadroddion wedi eu dwyn i oleuni. Arferem dybied fod y cwbl a ddywedodd Efe, neu, o'r hyn lleiaf, y cwbl ag y gallem obeithio eu gwybod, wedi eu croniclo yn y pedair Efengyl. Ond y mae ymchwiliadau y blynyddoedd diweddaf hyn yn rhoddi golwg wahanol ar bethau, ac nis gwyddom yn iawn pa beth i'w ddisgwyl. Nid oes wybod pa faint o hen law-ysgrifau cyffelyb, a hwyrach, hefyd, pwj^sicach o lawer, sydd yn awr yn gorwedd yn guddiedig o dan garneddi o adfaelion, ond rhyw ddiwrnod a ddygir eto i oleuni. Y mae y cwmniau o gloddwyr sydd ar waith yn yr Aipht, Babylonia, Palestina, a manau eraill, yn llwyddo i adgyfodi pethau rhyfedd o'u beddau. Caed eisoes lawer o law-ysgrifau a cherfiadau fil- oedd o flynyddau yn hŷn na dyddiau yr Arglwydd Iesu. Pa- ham, gan hyny, nas gellir disgwyl rhagor o adgofion am yr hynotaf o feibion dynion.