Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BANER Y GRüES. Rhif. 9. AWST, 1855. Cyf. 1. ^efgtilíati gr 55glínös gm JîlörBÌJaín. Dros naw mlynedd faith y beiddiodd Caradog ddewr holl alluoedd Rhufain. Y frwydr olaf a ymladdodd efe oedd yngwlad yr Orddwyfwys yng Ngogledd Cymru. Fel pe buasai yn ymsyniol y byddai i honno benderfynu tynged ei wlad, ymddengys fel yn arfer egnion mwy ymdrecbgar nâg eriôed i annog ei wýr ymlaen. " Dyma'r dydd," llefai, " a dyma'r gâd, a fydd yn ddechreuad naill ai o ryddid adfer- edig neu o gaethiwed diddarfod." Mor anholreinadwy yw ffyrdd rhagluniaeth! Er i'r Cymry gael eu gorchfygu, etto bu yr amgylchiad iddynt hwy mewn gwirionedd yn dde- chreuad "rhyddid arferedig," ie, "rhyddid gogoneddus plant Duw." Cymmerwyd rhai o deulu Caradog yn gaeth- ion ar faes y gwaed, tra y bradychwyd ef ei hun i ddwylaw Ostorius Scapula gan Aregwedd Foeddawg, at yr hon y ciliasai am nawdd. Anfonodd Ostorius ef mewn buddugoliaeth i Rufain. Tr oedd clod y Cymro enwog wedi rhedeg dros yr holl ymerod- raeth, a mawr oedd y lli'aws o bobl a ddaeth ynghŷd i'r ddinas i weled gwron ag oedd cyhŷd wedi gwrthsefÿll yr arfau ymerodrol Wrth fyned trwy'r heol ar ol ei deulu a'i gyfeillion, yr oedd ei ymddygiad urddasol ac ëofn y cyfryw ag a dynnodd sylw a syndod pawb. O'r diwedd, gan sefyll o flaen y frawdle, annerchodd yr Ymerawdwr gyd â'r fath hyawdledd, grym, ac anymddibyniaeth, fel ag yr effeithiodd ei araeth yn ddwys arno, a gorchymynwyd iddo o'r herwydd gael ei rhyddhâu allan o law, yDghŷd a'i wraig a'i frodyr.