Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CENHADWR AMEPJCANAIDD. "".:'::;: Oyf. 24, Rhif. 7. 60EP-HENAF, 1863. Rhif. ole 288. îhîd)0raetl)O0ol. Y DIWEDDAR BAROH. D. GRIFFITHS, MADAGASCAR. [Parhad o'r t. d. 163.] "Wedi iMr. Griffiths gael gorchymyn i adael y wîad yn mhen pythefnos, ymdrechodd i ddi- ìeu yr argraff oddi ar feddwl y frenhines a'i swyddogion nad lladrad oedd cynorthwyo y Oristionogion erlidiçdig a ymadawent o'u gwir- fodd, drwy roddi iddynt angenrheidiau y daith; os amgen, am iddynt ddwyn y cyfryw ato, a rhoddi eu tystiolaeth yn ei erbyn; ac na wnaethai ar un tir ofyn maddeuant y frenhihes, am y buasai drwy hyny yn gwneud cam â'r gwirionedd, ac yn dwyn camdystiolaeth yn ei erbyn ei hun. Ond cyfaddefai mai hi oedd unbenaeth yr ynys, y gallasai wneud fel y gwelsai yn dda—©i fod yn gofyn am gael am- ser i gasglu ei eiddo, caniatâd i logi cludwyr i'w ddwyn ef, ei fab, a'i nwyddau, i lan y môr —ao hefyd, gofynodd iddi i dalu 2,560 o ddol- eri a wariodd i adeiladu ei dŷ, &c, o'r hwn yr oedd y frenhines wedi cymeryd meddiant. Oafodd ryddid i logi cludwyr, pythefnos o amser i ymbarotoi; ond am y tỳ, &c, dywed- wyd wrtho mai y frenhines oedd ei berehenog, nad oedd yn bwriadu ei dalu, a'i bod yn gorchymyn na soniai air yn rhagor am dano. Dadleuodd yntau mai dyna y cytundeb oedd . wedi ei wneud a Radama pan yn ei adeiladu, a'i fod wedi treulio 300 o ddoleri at wella y gerddi, o'r rhai hefyd yr oedd hi wedi cymer- yd meddiant. Ond bu y cwbl yn ofer; o gan- îyniad, ymadawodd â'r ddinas—ie, â'r ynys, a gwerth tua 2,860 o ddoleri o'i feddiannau yno hyd y dydd hwn. Trwy awgrymiad Mr. Grif- ■ fiths, y mae Mr. Ellis wedi cael y tir lle y safai y capel â'r tŷ arno, at wasanaeth y genhadaeth. Yn mhen tua thri diwrnod ar ddeg ar òl hyn, mewn gofid dwys ac ofnau calon, can'odd yn iach i'r brifddinas. Yr oedd wedi clywed gan ryw gyfdiìl fod Rainimaharo wedi gor- chymyn yn ddirgelaidd ei lofruddio pan fyddai yn myned drwy y goedwig fawr; felly yr oedd wedi rhoddi cyfrif o'r oll oedd yn ei feddiant ì un Mr. OampbeU, fel y cawsai ei deulu wybod pa fodd yr oedd pethau yn bod os cymeraî rhywbeth anymunol le. Pan oedd yn ymadael, derbyniai liaws mawr o ìythyrau oddi wrth y' Oristionogion, a deuai rhai ato yn bersonol, er eu holl. ofnau i gyd, gan erfyn arno i wneud rhywbeth i'w gwaredu: yr hyn a addawodd wneud os oedd yn ddichonadwy, trwy ddanfon îlongau i'r cwr gorllewin yr ynys. Feì hyn Awst 4, 1840, y gadawodd y ddinas am byth —y man lle y treuliodd flynyddoedd goren ei fywycl-^â'i galon yn curo wrth feddwl am y goedwig fawr, rhag mai yno y cawsai ei osod ifarwolaeth; ond aeth drwyddi yn ddiangol. Pan yn gorphwys dros y nos, cafodd ei ddeffro, a hysbyswyd ef fod swyddogion y Uys yn ym- ofyn a.m dano. Meddyliodd mewn eiliad mai dyfod i'w ladd yr oeddynt, a'u bod wecli methu ei ddal cyn iddo adael y goedwig. Munyd gyfyng oedd hon—edrychai ar ei fachgen bach anwyl yn dosturiol—ymrifcbiai ei deulu oedd yn Mhrydain o flaen ei feddwl—gwelai ei hun yn eael ei ladd; ond pan ddeallodd nad oedd- ynt yn bwriadu gwneud dim niwed iddo, fe giliodd ei ofnau, a chyflwynodd ei ddiolchgar- wch i Dduw yr holl ddaear. Cyrbaeddodd i Tamatave ar yr 16eg o'r un mis, glaniodd yn y Mauritius Medi 25ain, a chafbdd dderbyniad croesawus gan yr holl Gristionogion. Oddi yno, cymerodd ddwy fordaith i borthladdoedd Madagascar, i geisio achub y Cristionogion ya ol ei addewid; ond bu yr oll yn ofer, canys ni lwyddodd i gael gafael ar un o honynt. Yn 1840—41, teithiodd gryn lawêr, pryd yr ymwelodd âg ynysoedd Oemoro, ac amryw leoedd ereill ar gyffiniau Affrica. Bu yn glaf iawn ac yn agos i farw ar y fordaith hon, a chafodd golled hefyd o lawer o'i feddiannau. Yn Tachwedd, 1841, ymadawodd ef a'i fab am Loegr, a chyrhaeddasant i Lundain, Chwefror, J842, Ue y cafodd dderbyniad llawen a chalon- og gan ei gydwladwyr a chyfeillion y genhad- aeth yn gyffredinol; a derbyniodd lawer o an- rhegion i'w danfoiÍTr Cristionogìon erlidedio- pa rai a gawsant drwy law un Mr. Berbeyn! Ond er na chawsai am p Ugain m]vnedd