Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ERICMAIDD. Oyf. 18, Ehif. 2. CIIWEFROE, 1857 Rhif. oll 206. 33ucl)îrraUI)oírauil HAÎsES MARWOLAETH BOWLAND TAYLOE, D. D. Bowland Tatloiî oedd dduwinydd mawr a pheriglor yn Hadley, yn SnffoIk, lle y buasai Mr. Thomas Biiney yn pregethu gynt. Yn nechreuad teyrnasiad y frenines Mary, rhai o'r Papistiaid a fynasant offeiriad i fyned i eglwys Hadley i ddarllain yr offeren (Mass,) gan ei amddiffyn ef â chleddyfau noethion. Y dysgawdwr, yr hwn oedd y pryd hyny yn ei lyfr-gell, a glywodd y gloch yn tongcian, aeth i'r eglwys, lle y cafocldyr offeiriad mewn gwisg babaidd, yn barod i ddarllain yr otìereu; yna'r Doctor a ddywedodd wrtho, "Tydi, ddiafol, pwy a'tli wnaeth di mor eon a dyfod i mewn iY eglwys hon i'w halogi a'i diwyno â'th fíiaidd eüun-addoliaeth? Yr wyf yn gorchymyn it', y blaidd pabaidd, yn enw Duw, i ymadaeí oddi- yma, ac nid rhyfygu fel hyn i wenwyno praidd Orist." Ar hyn un Ffoster, rhagfiaenor yn y gwaith, a amharchodd y Doctor; a thrwy gyn- crthwy rhai a oedd mewn arfau bwriasant ef allan o'r eglwys. Yn ddiatreg yn ol hyn, Gardiner, esgob yn "Winchester, a anfonodd am dano ef i Lundain. Ar hyn ei gyfeillion a'i cyngliorasant ef i gilio ymaith, onid ê nad oedd dim i ddysgwyl ond carchariad ac angau; yna efe a'u hatebodd Iiwynt, gan ddywedyd, "Myfi a wn fod fy achos mor dda ac mor gyfiawn, a'r gwirionedd mor gryf ar fy ochr, fel trwy ras Duw yr af yno, ac yr ymddangosaf o'u blaen, ac a wrth- wynebaf eu gau athrawiaeth o'u blaen; canys yr wyf yn credu, na allaf byth wneuthur cystal gwasanaeth i Dduw ag yn awr; ac na chaf byth alwad mor anrhydeddus, na ehymaint o drugaredd ag y mae Duw yn ei gynyg i mi yn awr. O herwydd paliam, gweddiwch droswyf, nid wyf yn ameu na fydd i Dduw roddi i ml nerth, ai Láu Yspryd, fel y byddo i'm hol elynion gywilyddio am eu gwaith.". Pan ddaeth at yr esgob Gardiner, derbyrw iodd yr esgob eí'mews iaith afry wiog. ac a ofynodd iddo, gan ddywedyd, "Pa fodd j gelli edrych yn fy wyneb ? a wyddost ti pwy ydwyf?" " Gwn, ebe'r Doctor, myfi a wn pwy ydwyt, Dr. Stephan Gardiner, esgob Winches- ter, ac arglwydd ganghellwr; ond eto dyn mar- wol yr wyf fi yn meddwl. Ond os dylwn ofni dy lygaid arglwyddaidd di, pa ham na ofni di Dduw ein Harglwydd ni oll ? Pa fodd yr wyt ti yn galiu edrych yn ngwyneb un dyn Orist- 'nogol, yn gymaint ag i ti ymaüaw a'r gwTirion- edd, gwadu Orist a gwneuthur yn groes i'tli lw a'th ysgrifeniadau? Gyd â pha fath wyneb yr ymddangosi o flaen gorseddfaingc Orist, ac ateb i'th lw yn erbyn Pabyddiaeth, yn amser y brenin Harri yr wythfed, ac yn amser brenin Edward y chwechfed; y pryd hyny llefaraist acysgrifenaist yn eu herbyn." Dodwyd ef yn ngharchar, a bu yno yn agos i ddwyflynedd; ac efe a ddywedodd wrth eì gyfeillion, yn mhen ychydig wedi ei fwrw yn ngharchar, "Y mae Duw gwedi gofalu am danaf, trwy fy nanfon i yma, lle y cefais y fath. angel i Dduw â Mr. Bradford yn gyfaill i'm cysuro." Pan gondemniwyd ef, efe a ddywedodd wrtli yr esgobion, y byddai i Dduw, y Barnwr cyf- iawn, oíyn ei waed ef ar eu dwylo; ac y bydd- ai i'r rhai mwyaf balch o honynt edifarhâu am eu gwaith yn derbyn anghrist drachefn, ac am eu creulondeb yn erbyn praidd Orist. Fel yr oedd yn myned dros bont Hadley, dyn tlawd, a phump o blant gyd ag ef, a gwymp- odd ar ei liniau, gan ei alw ef yn dad anwyl ao yn fugail da; gweddiodd ar Dduw i'wg^morth- wyo ef gynifer gwaith, eb efe, ag y cynorthwy- aist ti fi a'm plant tlodion. Yr oedd y bobl yn dal sylw pan dynoddef ei gwccwll ymaith, fod ei wallt yn gnotiau, a chwedi ei dori fel pe bnasai wedi ei amcanu i'w osod ef yn watwor; a chwedi eu cyffroi gan yr olwg barchedig, a'i farf wen hir, wylasant drach- efn yn clnverw, gan waeddi allan, Duw a'th gadwo di, Dr. Taylor anwyl, a lesu Grist a'th nertho; gyd â llawer o ddyrnuniadau ŵaf- edigol eraill. Efe a losgwyd yn Hadley; a phan yr oedd ef yn myued yno, yr oedd mor Ilawen Ä phe