Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HUNANGOFIANT ENWOGION. 117 Y PARCH. GRIFFITH ELLIS, M.A., BOOTLE : (65AIN MLWYDD OED, MEDI 10FED, 1909). Ganwyd fi yn Aberllefenni, yn mhlwyf Talyllyn, yn Sir Feirionydd, ar y lOfed o Fedi, 1844. Enw y tŷ y'm ganwyd ynddo oedd Ty'n y Cornel, rhan o'r hen balasdy sydd wedi bod yno er's llawer oes. Ar adeg fy ngene- digaeth gweithiwr cyffredin oedd fy nhad ar y fferm, yr hon a ddelid gan Mr. Edward Edwards, yr hwn oedd yn byw yn yr hen balasdy. Nid oedd cyfìog fy nhad ond ychydig sylltau yn yr wythnos ; a chlywais fy mam ac yntau yn dweyd lawer gwaith mai cyfyng iawn oedd eu hamgylchiadau ar y pryd. Yn wir, cyfyng ryfeddol, yr adeg hono, oedd amgylchiadau gweithwyr y Deyrnas yn gyffredinol: nid oedd Deddfau yr Yd eto wedi eu galw yn ol. Ac yn awr, yn mhen triugain mlynedd a mwy, gwneir ymdrech benderfynol i ddwyn yn ol drachefn y caledi hwnnw ! O dri i bedwar mis cyn fy ngeni yr oedd brawd bychan i mi, o'r un enw a minnau, wedi marw. A phrofedigaeth fawr oedd hono i'm rhieni. Llawen oeddynt, gan hyny, gael bachgen arall ; ac nid oes dim amheuaeth na chy- segrasant hwnw i'r Arglwydd ar unwaith. Yr oedd yn uchelgais gan fy nhad gael magu pregethwr ; a'r un modd gan fy mam : ac nis gallaf fi gofìo dim yn foreuach yn eu hymddyddanion yn fy nghylch na hyny, mai pregethwr oeddwn i fod. Pobl wir grefyddol oedd fy nhad a'm mam ; ac, yn fy syniad i, dipyn yn fwy deallus na'r cyffredin. Pan oeddwn yn ddeunaw mis oed gadawodd fy rhieni Aberllefenni, a symudasant i Dan'rallt, Corris. Nid oedd lawn ddwy filldir rhwng y ddau le. Ac yno yr ydwyf fi yn cofio fy hun gyntaf. Dedwydd yw plant ieuaingc yn gyffredin ; ond y mae yn anhawdd i mi gredu y bu erioed blentyn dedwyddach nag oeddwn i. Dychwelodd fy rhieni i Aberllefenni pan oeddwn yn saith mlwydd a hanner oed ; ond nis gall neb feddu adgofion dedwyddach nag sydd genyf fi am y pedair blynedd o dair a hanner i saith a hanner. Capel Rehoboth oedd yn llenwi y lle mawr yn fy mywyd y pryd hwnnw. Pan oedd y Dr. John Roberts, Rhasia, yn y wlad, rai blynyddoedd yn ol, gallodd ef a minnau wneyd rhestr gyflawn o'r gwrandawyr a arferent lanw pob eisteddle ynddo. Gresyn na buaswn, y pryd hwnw, wedi ysgrifenu y rhestr. Y blaenoriaid oeddynt (maddeuer i mi am adael allan y Mr.)— Humphrey Davies, Abercorris ; William Richard, Tŷ'r Capel ; William Jones, Tanyrallt ; William Edwards, Ceinws ; a John Jones, Gyfylchau. A'r cyntaf oedd y mwyaf ei ddylanwad o holl drigolion yr ardal: gŵr llawn o yni gyda'r ddau fyd, a phawb yn meddu parch diderfyn iddo. Ond ofer ydyw i mi ddechreu adrodd fy adgofion am danynt hwy : buont oll yn dra charedig wrthyf ; a dwfn ydyw fy mharch i'w coffadwriaeth. Yr oeddwn yn hoff iawn o'r Ysgol Sul. Lewis Tomos, y Castell, oedd fy athraw cvntaf : yn barchus ac anwyl byth y byddo ei goffadwriaeth. Äm lawer o flvnvddoedd efe oedd athraw y bechgyn yn nosbarth y wyddor ; tra yr oedd Gruffvdd Ifan, Ty'n y Cae, yn athraw dosbarth y genethod. Erioed ni phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddynt am eu llafur ffyddlon ; ond fe ddaw y dydd y cydnabyddir eu gwaith hwythau. Dysgasant yr A B C i ugeiniau lawer o blant. Dvsgais i ddarllen pan yr oeddwn yn bur ieuangc ; a blin genvf oedd clywed Lewis Tomos yn cwyno am fy mod wedi ei adael ef a mvned at athraw arall; a bum vn erfyn am gael dych- welyd atto. Fy athraw nesaf oedd William Ellis, brawd i'r Parchedig Robert Ellis, Ysgoldy, Sir Gaernarfon ; ac athraw rhagorol ydoedd. Ac yr oedd y canu vri ffvnnonell llawer o ddedwvddwch i mi, vn y cyfnod boreu hwnnw. Yr arweinvdd oedd Richard Williams, Hen Ffactri, Top Corris. Gŵr o Sir Gaernarfon oedd ef ; ond yr oedd ei wraig yn disgvn o hen frodorion y fro. Hen gvmeriad hvnod a thra gwreiddiol oedd ei thad, sef Richard Evan, Maes y Bwlch. Merch arall iddo oedd mam y cerddor enwog Eos Bradwen. A brawd i Richard Evans, sef James Evans, Ty'n Llechwedd, oedd y blaenor cyntaf, mi dybiaf, gyd a'r Wesleyaid yn yr