Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: RHIF 2.] EBRILL, i [Cyf. VI. BYWYD AO ATHRYLITH CEIRIOG. IV. Yr oedd Ceiriog, erbyn y fl. 1860, yn anterfch prysurdeb a phwysigrwydd ei fywyd llafurus. Yn y flwyddyn 1860 yr ymgymerodd â chasglu a chynoeddi y gyfres o'i lyfrau a ddechreuodd gydag Oriau'r Hwyr, ac a gynwysai, yn olynol, Oriau'r Boi'e, Cant o Ganeuon, Y Bardd a'r Uerddor, Oriau Ereill, Oriau'r Haf, Oemau'r Adroddwr, Cantata Tywysog Cymru, Cantata Gwarchae Harlech, Anthem Tywysog Cymru, Awdl y Môr, geiriau Cymraeg i Songs of Wales Brinley Richards, &c, &c, &c ; heblaw ei afrifed gyfraniadau i'r wasg wythnosol, misol, a chwarterol—ysmala a difrifol, chwedlonol a beirniadol, Cymraeg a Saesneg—rhaì ohonynt na chaiff y byd byth wybod mai efe oedd yr awdwr, —tra hefyd, ar hyd yr holl amser, yn cynal gohebiaethau dirfawr a diseibiant, a fuasent eu hunain yn llenwi amryw gyfrolau trwchus, gyda lluaws o brif ysgolheigion, gwladgarwyr, a dyngar- wyr, Ewrop ac America; yn gystal ag ysgrifenu beirniadaethau manylgraff a defnyddiol i afrifed Eisteddfodau o bob gradd. Fy syndod yw ei fod yn gallu cyflawni cymainb o waith llênyddol diorphwys, ac hefyd llenwi ei swyddi gwysig o' dan gwmnion amryfal reil- ýrdd, nid yn unig er boddlonrwydd y perchenogion, eithr hefyd er haeddiant a derbyniad dyrchafîadau gwobrwyol iddo'i hun. Yn y flwyddyn 1861, yr oedd Pwyllgor ardderchog Eisteddfod Genedlaethol Caer-yn-Arfon mewn llawn gwaith, dyfalwch ac yni, yn darbod ar gyfer Eisfceddfod fawreddog y flwyddyn ädi- lynol, sef 1862. Un o benderfyniadau'r pwylígor hwnw ydoedd,cael Cantawd yn barod i'w datganu yn ystod yr Eisfcedd- fod; y testyn, "Tywysog Cymru," mewn clodforedd coffâol i fàn genedig- aeth y Tywysog Cymru cyntaf, a dyfod- iad y Tywysog Cymru presenol i'w oed. Cafwyd libretto hynod hapus gan Ceiriog mewn pryd i rodäi i Owain Alaw amser i gyfansoddi cerddoriaeth y gantawd, ac yntau i gyflawni ei waith mewn pryd i roddi i gôr y dref amser priodol i ddysgu'r gwaith ar gyfer ei ddadganu yn ystod yr Eisteddfod, at yr hyn y neillduid noson un cyngherdd cyfan. Bu a wnelwyf fi rywbeth âg arweinydd- iaeth y côr, y gantata, a'r cyngherddau; ac fe esgusoda'r darllenydd hyn bach o fyfiaeth " hen law" fel fi, wrfeh ymwneud "â'r hen amser gynt," tra'n ychwanegu, fod y cantata, fel cyfansoddiad parth geiriau a cherddoriaeth ; y côr a'r offer- ynau cynorthwyol, yn cynwys amryw äelynau, dan flienoriaeth Pencerdd Gwalia ; y prif gantorion, a'r datganiad trwyddo; y cyngherddau mawreddog trwy yr wythnos, a'r holl Eisteddfod, wedi " troi allan yn llwyddiant per- ffaith," ys dywedir. Er fod cy weithasgarwch, diwydrwydd, parodrwydd i gynorthwyo pob achos da, yn enwedig pob symudiad Cymreig; buchedd ddifrycheulyd, a boneddigeidd- rwydd siriol, diragfarn, a diymffrost, wedi ei wneud yn ffafryn gan bawb a'i hadwaenai yn Manchester,—er hyny, fel y'dywed Idris Vychan: " Cafodd ffit o hiraeth am Gymru, ac am awyr y myn- yddoedd i fagu ei blant." Ond nid " ffit" ddisymwth oedd hi. Heblaw y lluaws cyfansoddiadau Eisfceddfodol a nodwyd eisoes, yr oedd Ceiriog wedi cyfansoddi a chyhoeddi lluaws yn anni- bynol ar bob cysfcadleuaeth, a cheid profion achlysurol yn ei ganeuon hyny fod ei galon yn Nghymru, a'i hiraeth yn dylanwadu ar yr amryfal destynau a chymeriadau y canai iddynt. Cymerer fel esiampl y ddau benill a ganlyn, allan o'r gân gyntaf yn Oriau'r Hwyr,—" Y Gareg Wen:"— Os pell yw telyn aur fy ngwlad O m dwylaw musgrell i;