Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsaedpdd "AV hwn y mae yr Annibyriwr wedi eî Uno.'" Cyk. Newydd.—76. MAWRTH, 1909. Hen Gyf.-571. DYSGYBLION TWYMN-GALON. GAN Y PARCH. OWEN EAANS, D-D. 44 A hwy a ddywerìa.-ant wrth eu gilydd, Onid oedd ein ealon ni yn llosgi ynom fcra yr ydoedd efe yn ymddiddan à ni ar y ffordd, a thra yr ydoedd efe yn agoryd i ni yr Ysgrythyrau?'—LüC 3rxiv. 32. YFNOD rhyfedd a chyfnod cymharol ddieithr yn hanes ein Harglwydd yw y deugain niwrnod rhwng ei adgvf- odiad a'i esgyniad. Nis gwyddom pa le na pha fodd y treuliodd efe y rhan fwyaf o lawer o'r amser hwnw. Fe fyddai yn dyfod at ei ddysgyblion am ychydigyn awr aphryd arall o rywle o'r anweledig, ac yna yn diflanu o'u golwg yn sydyn drachefn. Ond pe rhoddid yr holl amser a dreuliodd efe gyda'i ddysgyblion yn ei wahanol ymddangosiadau iddynt, yn ystod y deugain niwrnod at eu gilydd, ni wnai y cwbl yn nghyd ond ychydig oriau. Fe ddichon iddo dreulio y rhan fwyaf o'r araser yn rhywle yn nghwmni y saint hyny a gyfodasant gydag ef o'u beddau foreu y trydydd dydd; oblegid y mae yn ymddangos fod y rhai hyny yn gymdeithion mwy cyfaddas iddo yn awr na'i ddys- gyblion, gan ei fod yntau bellach fel yrhai hyny yn perthyn yn nes i'r byd ysbrydol nag i'r byd yma, ac y mae yn llawer tebycach i'r rhai hyny fyned adref gydag ef i ogoniant, ar ei esgyniad, nag iddynt ddychwelyd yn ol i'w beddau. Mae yn naturiol gofyn, Beth oedd dibenion ein Harglwydd wrth aros ar y ddaear cyhyd ar ol ei adgyfodiad? Gallesid dysgwyl y buasai brys arno ì adael y byd yma oedd wedi dangos y fath anmharch a chreulondeb tuag ato, a myned adref yn ol, yn enwed- ig gan fod ganddo gartref mor ddedwydd i fyned iddo. Eithr yn lle hyny, fe arhosodd yma am ddeugain niwrnod, a rhaid fod ganddo rvw amcan yn hyn heblaw rhoddi pob sicrwydd i'w ddys- gyblion ei fod wedi adgyfodi o'r bedd; oblegid fe aliasai wneuthur hyny mewn deugain awr llawn cystal ag mewn deugain niwrnod. Gellid meddwl mai ei brif amcan yn ystod y deugain niwrnod oedd dysgu ei bobl i sylweddoli ei bresenoldeb ysbrydol ac anweledig, a rhoddi yr argrafl yn ddwfn ar eu meddyliau ei fod ef o hyd yn