Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno.'" Cyf. Newydd.-67. MEHEFíN, 1908. Hen Gyf — 562. Y WLAD WELL. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. " Eithr vn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwenych, hyny ydyw, un nefol: o aehos paham nid cywilydd gan Ddnw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegyd efe a barotôdd ddinas iddynt."—Heb. xi. 16. ETH digon cyffredin ydyw gweled dynion yn "chẁenych gwlad well." Meddylier am y miloedd sydd bob blwyddyn yn gadael gwlad eu genedigaeth. a gwîad beddrod eu tadau—yn fîarwelio yn eu dagrau â'u ceraint a'u cyfeillion—yn ymfudo i wledydd pellenig, ac i blith dieithriaid ac estroniaid—y maent yn gwneuthur y pethau hyn am eu bod yn "ehwenych gwlad well " Ond "chwenych gwlad well" yn rhywle ar y ddaear hon y mae y bobl hyn; am wlad o'r un naturâ'u gwlad enedigol, ond "gwlad well" yn unig o ran ansawdd a graddau y maent hwy yn dymuno. Ond am y bobl y sonia y testun am danynt, yr oedd y rhai hyn yn chwenych "gwlad well" o ran ei natur. Nid ceisio "gwlad well" i godi ŷd, i fagu anifeiliaid, i gasglu golud a chyfoeth, ac i gychwyn a sefydlu eu plant yn y byd yr oedd y rhai hyn; ond chwenych gwlad nefol, yn lle gwlad ddaea ol yr oeddynt. Yr oedd yr Arglwydd wedi addaw gwlad Canaan yn etifeddiaeth i Abraham a'i had; ac yr oedd hono yn "wlad dda odiaeth." Ond eto, ni feddyliodd Abraham am adeiladu dinas mewn rhyw lanerch heulog hyfryd ynddi a'i galwyn "Dref Abraham," naddo, ni wnaeth gymaint ag adeiladu tŷ, a phrynu tyddyn iddo ei hun yno; ondyr unig lecyn o dir a bwrcasodd yno oedd lle beddrod i gladdu ei anwyl briod. Fe "ymdeithiodd yn nhir yr addewid megys mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai" symudol. Ac fel hyn, yr oedd ei ddull crwydrol a phererinol o fyw yno yn arwyddo yn eglur nad ydoedd yn bwriadu gwneud ei gartref yn sefydlog yno; ond fod ei feddylfryd ar ryw wlad arall fel lle i gartrefu. Ond nid hiraethn aai ddychwelyd yn ol dros yr Euphrates i Caldea, ei wlad enedigol, yr oedd efe a'i deulu, onide fe fuasai vn ddigon hawdd iddyn*