Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

It 9 y Dp$ôedpdd: " A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." 5CŴCCCCCCCCOCCC«XOC!5C^^ Cyf. Newydd.—53. EBRILL, 1007. Hen Gyf.-548. TYRED A GWEL. GAN Y DIWEDDAR BARCH. W. AMBROSE. " A Nathanael a ddywededd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? Phylip a ddywedodd wrtho, Tyred a gwel."—Ioan i. 46. [LE dirmygedig oedd Galilea, a'r lle mwyaf dirmygedig yn ' Galilea oedd Nasareth. Prin y buasai cardotyn yn cyfaddef mai o Nazareth yr oedd. Gwell fuasai ganddo ddweyd ei fod yn dyfod o le agos i fynydd Tabor. Ond anrhydeddwyd y lle isel hwnw â phresenoldeb ein Gwaredwr am dri deng mlwydd o amser. Yr oedd wedi myned yn ddiareb, "A ddichon dim da ddyfod o Nazareth?" Y mae yn anhawdd gwybod pa fodd i bwysleisio gofyniad Nathanael, oni buasem yn gwybod agwedd ei ysbryd. Pwy ydym i'w adnabod ynddo, Ai y gwawdus? Ai yr amheus? Ai y pryderus? Naturiol credu mai yr olaf, wrth eiriau Crist: "Wele Israeliad yn wir, yn yrhwn nid oes dwyll." A thrachefn, "Pan oeddit tan y ffigysbren, mi a'th welais di." Efallai ei fod yn ysbryd Simeon, neu Anna y broffwydes, yn gweddio am iechydwriaeth i Israel. Tybiai nad oedd neb yn ei weled, ond pan ddeallodd fod Crist wedi ei ganfod, efe a ddywedodd, "Rabbi, ti yw Mab Duw; ti yw Brenhin Israel." Y maeateb Phylip yn ddoeth, "Tyred a gwel." Gallasai resymu âg ef, a dangos nad oedd fod Nazareth yn lle distadl, yn un prawf nad allasai un mawr godi oddiyno. Gallasai hefyd ddangos o'r Hen Destament y deuai y Messiah o Nazareth, yn gystal ag o Beth- lehem. Ond yn lle ymresymu âg ef, ei wahodd i ddyfod a phrofi drosto ei hunan a wnaeth, "Tyred a gwel." Y mae gofyniad Nath- anael yn cynrychioli dosbarth aneirif o gwestiynau chwilgar, sydd yn cael eu gofyn yn y byd yn nghylch crefydd; ac y mae atebiad Phylip yn gosod allan wirionedd pwysig ger bron y byd, sef, mai yr unig ffordd i ddeall crefydd yw ei phrofi. Nis gall neb ddeall crefydd i bwrpas heb ei meddu. Cymerir mantais oddiwrth y testun i sylwi ar rai o'r gwrthddadleuon a godant yn meddyliau pobl yn nghylch crefydd, a'r cynghor priodol i'w roddi yn wyneb y cyfan.