Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." CYFLWR Y BYD YN NYDDIAU CRIST* GAN Y PROFFESWR E. ANWYL, M.A., ABERYSTWYTH. IAMEU fod amryw o ddarllenwyr y Dysgedydd bellach wedi ymgydnabyddu â'r llyfr a enwir isod. Yn sicr maeyn un o'r llyfrau mwyaf dyddorol a gwerthfawr a gyhoeddwyd yn ystod y blynyddoedd diweddat hyn ar dyfiant a chynydd Cristionogaeth. Er nas gellir cymeradwyo pob peth a gyhoeddir yn yr Almaen ynglyn â Duwinyddiaeth, eto, cyfiawn ydyw rhoddi clod lle mae clod yn ddyledus; ac nis gall eírydwyr hanes boreuol Cristionogaeth lai na thalu yn galonog deyrnged o barch ac edmygedd i'r Almaenwyr hyny, fel Schürer a Harnack, heb son am lu o wŷr eraill, a gasglasant gronfeydd o fleithiau pwysig yng nghylch y cyfnod pan ymddangosodd Crist. Cloddiwr heb ei fath i'r gorphenol ydyw'r Almaenwr, a'i wasanaeth goreu i ddysgeidiaeth ydyw ei gyflead o ffeithiau. Drwy ei ddyfalbarhad dygodd, o dro i dro, lawer o ffeithiau newyddion i'r amlwg; a bu y rhai hyn yn foddion i daflu goleuni newydd ar hen ffeithiau adnabyddus. Ambell waith try yr Almaenwr yn fwy o ddychymygwr nag o ymchwiliwr, a'r pryd hyny nid yw yn ddiogel ei ddilyn. Nis gellir, er hyny, ddisgwyl pob peth oddiwrth yr un rhai, a rhaid ini gymeryd gan bob cenedl yr hyn y gall hi ei gyfranu. Mae rhyw gymaint o ûs yn gymysg â dysgeidiaeth pob cenedl, ond gellir dibynu ar amser i'w nithio. Felly gyda Harnack, a'i gyd-ysgol- heigion Almaenaidd. Wrth chwilio, dichon y darganfyddai rhai o ddarllenwyr y Dysgedydd ryw gymaint o ûs yn ysgrifeniadau Harnack; ond cawsai hefyd swm helaeth iawn o wenith pur, ac y mae'r llyfr a adolygir yn awr mor llawn o íaeth ag odid un a ysgrifenodd. Er fod llawer o ddigwyddiadau dibwys wedi cymeryd lle yn nyddiau Crist, fel yn mhob oes, eto, nàturiol ddigon, pan ystyrir, ydyw chwilio am y wybodaeth fanylaf sydd ar gael am gyfnod mor bell yn ol. Gall ffeithiau dibwys ynddynt eu hunain fod yn bwysig * Harnach: Dit Mission und Aiisbreitung des Christenthwm*; The Mission and Expansion of Christianity. I D