Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.— 32. GORPHENAF, 1905. Hen Gyf.—529. PAUL A SEFYLLFA DDYFODOL. GAN DEWI MON. jR nad y\v hyny nac yma nac acw, goddefer i mi ddweyd fy mod i yn parhiu i gredu yn Paul, ac hyd oni chyfyd rhywun mwy nag ef, yrwyfyn penderfynu dilyn ei ar- weiniad. Y mae ei wybodaeth eang; ei athrylith ddigym- har, ac uwchlaw'r cytan, y ffaith fod Crist yn llefaru drwyddo, yn ei osod ar unwaith ar ben rhestr dysgawdwyr yr oesau, Llawer ymosodiad a wnaed arno o bryd i bryd gan y dosbarth a elwir yn "feddylwyr," ond ry wfodd hyd yn hyn y mae wedi goroesi y cyfan; ac ni raid wrth broffwyd i ragweled y bydd i'w ddylanwad gynyddu gyda threigliad canrifoedd. Daeth i'm llaw yn ddiweddar gyfrol drwchus,* gan awdwr nid anenwog, ar "Syniadau Paul yn nghylch y Pethau Olaf." Dar- llenais hi drwyddi gyda llawer o hyfrydwch, a mwy o adeiladaeth, er nad oeddwn bob amser yn cydolygu â'i gosodiadau. Y mae ei hymddangosiad ar y cytwng presenol yn hanes Cristionogaeth Brotestanaidd yn dra amserol, a haedda ystyriaeth bwyllog ar ran pob ymchwilydd gonest am y gwirionedd. Ymddengys i mi íod y " Pethau Olaf " yn dyfod yn llai lai pwysig yn ngolwg llu o Gristionogion proffesedig, ac os pery pethau fel y maent lawer yn hwy, y mae perygl iddynt gael eu dodi o'r neilldu yn hollol, a chael eu cyfrif yn mysg dychymygion ofergoelus yr oesoedd tywyll. Y mae ein syniadau am Deyrnas Dduw yn dyfod yn fwy materol nag yr ydym yn foddlawn cyffesu i ni ein hunain. Tebygwn yn yr ystyr yma i'r genedl Iuddewig ar adeg ymddangosiad y Messiah. Disgwylient hwy iddo Ef ym- ddangos yn niwyg llywodraethwr daearol, a gosod i fyny deyrnas ddihatal ei gogoniant, teyrnas ag oedd ì sicrhau bendithion tymhor- ol iddynt hwy fel pobl. Ond gan iddo siomi y gobeithion hunangeis- iol hyn, gwrthodasant gydnabod Ei hawliau, ac yn mhen ychydig •St Paul's Conceptions of the Last Things, by the Rev. H. A. A. Kennedy, M. A., D.Sc. London: Hodder & Stoughton.