Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDO: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—797. GORPHENAF, 1888. Cyf. Newydd—197. GAN J. EVANS OWEN, LLANBERIS. Py Nghyfaill,—Yingynullasom yma heddyw i'r dyben o fod yn dystion o'ch neillduad cyhoeddus chwi i waith y weinidogaeth efengylaidd. Cymhell- asoch fi i draddodi i chwi y gyfran hòno o'r gwasanaeth a elwir Y Cynghor —"y siars." Siars dryll yw ei ergyd; siars y Gair yw gwneud ewyllys Duw, a llwyddo yn y peth yr anfonwyd ef o'i blegid. Tra yn ystyried fy ngorchwyl, gwelais fod yn rhaid i ddefnyddiau y siars, os i ateb ei hamcan, fod yn oludog o hadau tyfadwy; ond pa le i gael gafael arnynt? Wedi- bwrw golwg ol a blaen, credais nas gallaswn wneud â chwi gyfoethocach ei wasanaeth i gymdeithas, a'i gyfrif i Dduw. Na thybiwch íì yn hunanol; esmwythach fuasai cynull yn nghyd dystiolaethau eraill, diau y buasent yn frasach a chryfach eu maeth; ond os wedi colli min eu croewder, pwy a wyr na buasai eu tynged yn gyffelyb i borthiant llwyd yr anifail bras? Cofiais nad arfer Pen yr eglwys yw diystyru tlodi defnydd, na dirmygu afluniaidd gelfyddyd yr un offeryn a gysegrir i'r gwasanaeth dwyfol, hyny a'm gwrolodd i offrymu ar ei allor Ef y siars hon, gan ddeisyf ei fendith arni er eich mantais chwi. I. 1. Goddefwch i mi yn flaenaf peth eich anog i erfyn ar Berffeithydd y ffydd am olygon chr er gweled pethau yn eu symledd—yn mhlith eraill, eich hunan, eich gwaith, a'r moddau i'w gwblhau yn gelfydd. Y mae uniondeb eich gyrfa ddyfodol yn dibynu ar gychwyn yn iawn. Na thyb- iwch y bydd i'r gwasanaeth heddyw newid dim arnoch—yr hyn ydych a fyddwch o ran unrhyw rin yn yr ordeiniad. Ni bydd genycn hawl i unrhyw deitl eglwysig a'r nad yw eisoes yn eich meddiant. Er ceisio fy ngoreu, methaf a gweled fod y neillduad yn sacrament; ac nid oes urddiad ychwaith o dan yr oruchwyliaeth bon yn yr ystyr y defnyddir y gair yn ei gysylltiadau Iuddewig. A lle y mae " brenhmol offeiriadaeth cyfled a chred, y mae unrhyw " urddiad o haniad gnawdol yn waeth na dirym. " Awdurdod " * Darparwyd sylwedd y sylwadau uchod ar gyfer cyfarfod neillduad Mr. R. J. Williams i waith y weinidogaeth yn Llandudno, Mai 16eg a'r 17eg, 1888; wrth eu hadysgrifenu, newidiwyd ffurf rhai o'r brawddegau, ac ychwanegwyd ychydig o sylwadau newyddion, yn y gobaith y byddai yr anerchiad yn deilyngach o ddarllen- »d drwy hyny__J. E. 0