Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD A'R HWN YR UNWYD "YR ANND3YNWR." +••*+- §toüît §ekjriau ûn ŵlgob. (GAN Y PARCH. E. A. JONES, CASrELLNEWYDD). "Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist."—Gal. VI. 2. Fealla.1 nad oes un o'r epistolau yn dal agosach perthynas â ni—cen- edl y Cymry—na'r epistol hwn, oblegid yr oedd y Galatiaid yn perthyn yn agos i ni yn ol y cnawd. Cenedl Geltaidd oeddynt, o'r un tarddiad dechreuol a'r gwaed coch Cymroaidd. Preswylient gynt yn Thrace, un o ranau mwyaf gogleddol gwlad Groeg. Aethant drosodd i Asia Leiaf ar ddymuniad brenin Bithynia, i'w gynorthwyo mewn rhyfel, oddeutu 250 o flynyddoedd c.c. Fel gwobr am eu llafur a'u dewrder milwrol, cawsant ran o wlad Bithynia yn etifeddiaeth. Trigasant yma yn genedl hollol wahanol, heb ymgymysgu rhyw lawer â chenedl- oedd eraill, o leiaf hyd y pedwerydd canrif; canys fe ddywedir eu bod yn siarad eu hiaith eu hunain y pryd hyny, ac yn dilyn eu defodau eu hunain, er yr ymddengys hefyd eu bod yn eithaf cydnabyddus â'r iaith Roeg, a'u bod yn dwyn y rhan fwyaf o'u masnach a'u gweithred- iadau gwleidyddol yn mlaen yn yr iaith hòno. Ac yn ol pob tebygol- rwydd, yn yr iaith hòno y pregethwyd yr efengyl iddynt gan Paul, yn gystal ag yr ysgrifenwyd yr epistol hwn atynt. Mae rhai yn meddwl eu bod yn gweled llawer o debygolrwydd rhyng- ddynt a'r Cymry yn eu charactcr anwadal ac ansefydlog. Nid annhebyg nad yw y nodwedd yma, mewn rhyw fesur, yn briodol i ni, y Cymry; diffyg ysbryd penderfynol, gwrol, ac-anturiaethus, yn cael ei lywodr- aethu a'i gyfarwyddo gan wybodaeth, doethineb, a phwyll; pa fodd bynag, y mae yn amlwg fod anwadalwch yn llinell neillduol ac amlwg yn nghymeriad y Galatiaid; oblegid yn fuan ar ol ymadawiad yr apos- tol â hwynt, wedi iddynt unwaith roddi arwyddion gobeithiol o'u hym- lyniad wrth wir Gristionogaeth, cymerasant eu hudo gan y gau- athrawon i gredu athrawiaeth gyfeiliornus a dinystriol, ac i ŵyro oddiwrth burdeb yr efengyl, fel y mae yr apostol yn adrodd ei syndod eu bod wedi eu symud mor fuan at efengyl arali Prif amcan yr epistol hwn, gan hyny, ydyw enill y Galatiaid yn ol at burdeb yr efengyl; ac fe ddywed rhai fod mwy o'r Apostol Paul i'w weled yn mhenderfyniad a mawrfrydigrwydd ei feddwl—y gallu deall- twriaethol ac ymresymiadol cryf hwnw ag oedd mor gynhenid ganddo, yn nghyda'r sel a'r eiddigedd santaidd hwnw ag oedd bob amser yn Uosgi yn ei galon, yn yr epistol hwn nag yn un o'r lleill; neu, mewn gair arall, fod yr Epistol at y Galatiaid yn gynllun GORPHENAF, 1880. N