Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŵndtototi. MESURIAETH YR EGLWYS. " A rhoddwyd i mi gorsen debyg i w'ialen. A*r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a'r allor, a'r rhai sydd yn addoli ynddi," Dat. xi. 1. Meddyliem fod tair egwyddor yn gorwedd yn y testun:— 1. Fod terfynatj tenodol yn perthyn i Eglwys Crist. " Mesura deml Dduw." Mae terfynau penodol iddi fel cymdeitlias grefyddol. Mae i Eglwys Crist fel cymdeithas gi'efyddol derfynau gwahanedig a neillduedig oddiwrth bob cymdeithas arall yn y byd. Mae iddi ddybenion gwahanol i bob cymdeithas arall. Fel yr oedd y deml yn Jerusalem yn gynnullfan neillduedig, felly y mae Eglwys Crist yn gymdeithas neillduedig. Er nad oes gwahaniaeth rhwng lleoedd i addoli Duw, y mae gwahaniaeth rhwng y gymdeithas sydd yn addoli Duw. Mae ysbryd cysegrwydd lle y deml o dan yr hen oruchwyliaeth yn aros yn nghysegrwydd y gymdeithas o dan yr oruchwyliaeth hon. Mae hi i fod ar sylfeini ac i ddybenion gwahanol i bob cymdeithas arall. Nid perthynas â gwlad neillduol, nac â chyfundraeth neillduol, sydd i fod yn sylfaen iddi, ond perthynas ysbrydol â Duw— cymer i mewn ddynoliaeth yn un frawdoliaeth santaidd yn Nghrist Iesu. Yr un bywyd ysbrydol sydd i gael ei fwynhau drwyddi oll. Nid oes cyfreithiau i'w attal na'i orfodi— mae i gadw o fewn terfynau ei barhad ei hun. Gosododd Duw derfynau i'w eglwys fel cymdeithas, fel y mae wedi gwneud i bob peth a wnaeth. Pan y mae yr angel yn gor- chymyn mesur y deml, nid yw yn gorchymyn iddo wneud terfynau iddi; ond mesur y terfynau oedd Duw wedi eu gosod eisoes. Yr oedd y gofal mwyaf yn cael ei ddangos am acleiladu y deml gynt ar y terfynau, ac yn ol y portread oedd Duw wedi ei osod; felly y dylai fod etto yn nglŷn â'r eglwys fel cymdeithas grefyddol. Nid yw Eglwys Crist i fod yn sathrfa i bawb. Mae Ilawer o son am "yr Eglwys," " ein Heglwys," "y fam Eglwys." "y wir Eglwys;" ond dymunem adgofFa etto mai nid cysylltiad â gwlad na chyfundraeth sydd i fod yn derfynau iddi. Gallwn gael ein damnio o'r wlad fwyaf Cristionogol o dau haul: gallwn gael ein colli byth er bod mcwn ymundeb â'r gyfundraeth fwyaf ysgrythyrol, os na byddwn wedi dyfod i dir bywyd y gymdeithas, sef ymundeb à Duw yn ei Fab,—"Ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys:" " sylfaen arall nis gall neb ei gosod." Er i ni feddu cymhwysderau priodol i bob cymdeithas arall, mae rhyw " un peth anghenrheidiol" yn ofynol i ddyfod i'r gymdeithas hon. " Mesura deml Dduw." 2. Mae terfynau penodol i athrawiaeth Eglwys Crist—" a'r allor." Ar yr allor yr oedd yr aberth yn cael ei gyflwyno i Dduw yn y deml gynt; ac wrth yr allor yn y deml Gristion- ogol y mae i ni olygu Crist yn nghyflwyniad o hono ei hun yn aberth dros bechodau y byd. Efe ydyw yr allor a'r aberth. Mae iawn olwg ar Iawn Crist yn athrawiaeth hanfodol yr eglwys. Heb fod gan yr eglwys olwg priodol ar Iawn Crist, ni bydd yn eglwys i Grist. Mae deall arba derfynau yr ydym yn cael dynesiad at Dduw yn hanfodol er ein dwyn ni at Dduw yn iawn. Nid ocs dim wedi llygru athrawiaethau yr eglwys yn fwy na llygru yr athrawiaeth hon. Mae gosod y bara yn lle gwir gorff Crist, a'r gwin yn lle ei wir waed, wedi effeithio er attal i'r elfenau bywiol gael eu mwynhau yn Eglwys Crist; ac y mae gosod cyfiawnderau personol, a rhinweddau seintyddol, wedi cau Ysbryd y bywyd o bob eglwys a wnaeth hyny. Mae rhai yn cau yr Iawn allan o gwbl; ond dylent gofio fod yr allor i aros yn yr Eglwys Gristionogol gystal ag yn y deml gynt, ac mai Crist ydyw y wir allor— nid oedd hòno ond cysgod o Grist. Mac yn fwy pwysig o lawer cadw Crist yn ei aberth a'i ymgyflwyniad i Dduw yn yr eglwys, nag oedd cadw yr allor yn y deml, er mor bwysig oedd hyny. Mae eraill yn cadw yr allor, ond yn gosod ebyrth anghymeradwy arni; ond Crist yw yr Oen difeius. " Efe yw yr Iawn dros ein pechodau ni." Os collir athrawiaeth Iawn Crist o'r eglwys, mac bywyd pob athrawiacth yn sicr o gael ei golli yn llwyr. Medi, 1854. ' 2 t