Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. IONAWR, 1852, DAÌÍIEL DE FOE, Mr. Gol.—Dywed Solomon, "Nad oes dim newydd dan yr haul: y peth y sy a fu." Mae y dywediad yna yn ymddangos i ni yn lled chwithig gyda golwg ar rai pethau : ond wrth daflu golwg a manylu ar bethau eraill, yr ydym yn cael ein gorfodi i gyfaddef mai "gwefus gwirionedd" oedd gan y "Pregethwr." Ac nid aml y gwelais hyny yn cael ei gymhwyso mor nerthol a thrwy ddarlleniad yr erthygl canlynol ar "Daniel de Foe" yn yr Eclectic Review am fis Gorphenaf diweddaf. Yr oedd syniadau a barn yr hen wron mor addfed, ac yr oedd yn mhob peth mor gredu fod yr hen athrawiaeth Bythagoraidd eneidiau yn wir wedi y cyfan! ond y mae un peth yn wahanol,—nid ydyw mor hawdd cau mewn carchar, ac ysgriwio gyddfau yn y pillory yn awr ag yn "yr hen amser da" gynt. Gwyn fyd na cheid gafael yn yr hen allwedd a glodä Daniel de Foe, BunyaD, a'u cyfeillion, yn y carchar nesaf i mewn unwaith etto! Os na fydd yr ysgrif hon braidd yn hir genych, Mr. Gol. dichon y caniatewch iddi ymddangos ar ddalenau y Dysgedydd. Credwyf fod y dyddordeb sydd ynddi i ymneillduwyr yr oes hon yn ddigon o dâl am ei meithder. Gadewais ambell ddarn nad oedd yn rhyw berthynasol iawn ahan. Yr eiddoch, &c—R. M. Cemmaes. Y natuu ddynol, yr hon a fŷn addoli, a addola y marw yn hytrach na'r byw. Rhoddi clod anghyffredin i ddyn tra y mae yn ein mysg a ochelir yn gyffredinol, fel pe byddai yn rhyw addefiad dystaw o israddoldeb. Ond pan y byddo farw, ymddengys fel wedi ei symud tu hwnt i gymhariaeth. Nid yw dynion wedi hyny yn archolli eu balchder eu hunain trwy fod yn dêg wrtho ef, ond yn hytrach yn ei foddhau yn y wir weithred o ganmol: yr hyn, yr amser hwnw, sydd yn fath o ymhòniad o gydraddoldeb, os nad o ragoriaeth. I'r dyn gwir fawr, er hyny, nid yw clod neu anghlod dynol ond o ycbydig bwys. Y mae ef yn gwybod am ei ddystadleiddrwydd, ac yn edrych at Farnwr uwch. Y mae yn rhedeg ei yrfa yn ddiysgog, er na chodir un llaw o'i blaid,—ie, er i ddwylaw pawb gael eu codi yn ei erbyn; a phan y mae drosodd y mae yn myned yn dawel i'w orphwysfa. Iddo ef nid yw ond o ycbydig bwys pa un a fydd y ddaear yn adsain gan glodydd neu waradwydd- iadau, o herwydd y mae byd arall a gwell. Y mae y gwirionedd hwn yn cael ei egluro yn mywyd y dyn hynod ag y mae ei enw uwchben y papyryn hwn. Efe a ddilynodd yrfa onest a gwrol; yr oedd yn cael eí gasâu, ei erlid, a'i gamdrin yn mhob ffordd gan ei gydoeswyr: ond gwnaeth olafiaid gyfiawnder ag ef • ac nid oes ond ychydig o galonau yn awr a wrthodant roddi parch os nid anrbydedd i'w enw. Ond nid yw y cyffredin yn gwybod pa gynnifer o hawliau sydd ganddo ar ein bri. Hwy a gysylltant ei enw gyda'r " Family Instructor" "Religious Courtship" "Memoirs of the Plague" ac uwchlaw'r cwbl, "Rob- inson Crusoe" Ond gweithiau ei henaint oedd yr holl rai hyn. Ei lafur penaf oedd fel gwleidyddwr ac anghydffurfiwr; ac yr ydoedd yn ddyoddefydd yn achoa rhyddid crefyddol. Y ffaith yw, ni chafodd De Foe unrhyw fywgraffydd gwerth ei enwi hyd fwy na hanner can mlynedd ar ol ei farw. Wedi y pryd hyny y mae Uawer o gofiantau iddo wedi gweled y goleuni; ond o'r braidd y mae un o honynt yn haeddu ei weled ddim yn hwy. Y maent yn amddifad o'r bywyd a'r gwirioneddolrwydd ag y mae eu gwrthddrych yn ei ofyn. Y goreu ydyw yr un gan Mr. Wilson:* gwaith gorchestol a Uafurus yr hwn a fydd o hyn allan yn safon i fywgraffwyr dyfodol: ond y mae wedi ei ysgrifenu yn y fath arddull wasgarog nad yw yn dueddol i hudo y rhai a'i dechreuant yn mlaen i'r diwedd. Y mae hyn mor groes i'r hyn a ddylai fod fel yr ydym yn meddwl y • "Memoirs of the Llfe »nd Tiraes of Daniel de Foe. Bf Walter Wilson, Esq. of the Inncr Temple. In thr<« TOlumes. London: 1834.