Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŵflríjjiiòmt. DR, LEWIS, Yr oedd Mr. Tibbot, fel ei ragflaenoriaid, Evan Lolard, Evan Williams, Evans, Drewen, a David Davies, yn ŵr dysgedig. Gydag ef y bu yr hen Mr. Roberts, Llanbrynmair, yn dysgu Lladin cyn myned o hono i Bwllheli at Benjamin Jones; a'r un modd Evans o Stocîport, y bachgen a ddewis- wyd yn bedairarddeg oed yn gydfeirniad â Robert Huw yn Eisteddfod y Bala, yn y flwyddyn 1787, ac a fu wedi hyn mor enwog am ei ddysg a'i ddefnyddioldeb yn y weinidogaeth yn Lloegr. Yr oedd hyn i Mr. Tibbot, fel y mae i bob gweinidog o'i harfer yn gyfreithlon, yn gryfder a nerth; nid yn unig yn ei fyfyrgell i ymbarotoi ar gyfer y pulpud, ond yn amgylch- iadau cyffredin ei fywyd, i roddi lle uwch iddo yn meddyliau y bobl, a dy- lanwad cryfach yn ei ymadroddion. Y mae yn wir ei bod yn foddion, o'i chamddefnyddio, i dynu dyn yn fwy i lawr, a pheri iddo gael ei sangu yn fwy didrugaredd dan draed. Ond nid yw hyn ond anffawd sydd yn perthyn i bob dawn,—y ddeddf annhòredig sydd yn nglýn â holl fendithion rhaglun- iaeth a gras; canys yn ol mesur y ddawn y bydd mesur y felldith i bob dyn a'i camarfero. Ond heblaw fod Mr. Tibbot yn meddu ar nerth dysgeidiaeth fel dyn, yr oedd yn meddu ar nerth llafor a diwydrwydd fel bugail: canys byddai yn fynych yn ymweled â Rhydymain, a'r Brithdir, a Dolgellau, a'r Cutiau, yn nghyda lleoedd eraill ag oedd o saith i wyth ar hugain o filldiroedd o'i gartref. Efe hefyd a ffurfiodd eglwys Penystryd, Trawsfynydd; canys y dyddiau hyny, myned yno yn achlysurol i bregethu y byddid, a'r dychwel- edigion yn gorfod dyfod i Lanuwchllyn i'w derbyn yn gyflawn aelodau, ac felly yr un modd i'r cymundeb, a bedyddio eu plant. Ac ni thalai un lle yn amgen ganddynt. Dyma oedd Jerusalera y sir. Ei le santaidd ef. Yma yr oedd y rhan fwyaf o honynt wedi gweled prydferthwch yr Ar- glwydd am y tro cyntaf, a cblywed y clychau aur wrth odre yr Arch- offeiriad mawr o'r tu hwnt i'r Hen, yn arwyddo fod yr aberth wedi ei dderbyn yn gymeradwy, a'r fendith wedi ei gorchymyn. A pharod oeddynt i ddywedyd ar bob adeg y sonid wrthynt am unrhy w le arall, " Os anghof- iaf di, Jerusalem, anghofied fy neheulaw ganu. Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd penaf." A phrin yr ystyrient na bedydd na swper yn gymeradwy os na byddai wedi ei santeiddio gan y He, yn gystal a chan air Duw a gweddi. Er nad oedd hyn ganddynt yn gymaint o bwnc o gredu, ag oedd o bwnc o deimlad a hen adgofion; etto i gyd, yr oedd, ar gyfrif ei henafìaeth ac agosrwydd ei berthynas â'u profiadau mwyaf roelus, ŵedi dyfod yn mhlith meddyliau mwyaf cysegredig eu calon, a chrefydd ac yntau yn cael ea Bystyried yn mron yr un peth. Ond yn nyddiau Abraham Tibbot, ac efallai yn benaf trwy ei offerynoliaeth ef, yr oeddynt wedi eu hargyhoeddi mai pur oedd pob peth i'r rhai pur, ac nad oes un raan yn fwy cysegredig na'i gilydd dan yr efengyl. Mewn gair, mai y dyn sydd yn santeiddio y llè, ac nid y lle y dyn. AWST, 1863. 2 M