Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD IESU EI HUN YW'R CYMOD. I IOAN Ü. I. 2. GAN Y PARCH. D. ADAMS, B.A., LIVERPOOL. j'OR fynych yr adgofir ni fod yn aros eto lawer o bynciau na fedr na gwyddor nac athroniaeth ddynol eu hesbonio. Nid yw y gwyddonydd eto, er mor feiddgar ydyw yn ei ym- chwiliadau, wedi llwyddo i gyfrif am ddechreuad bywyd. Aflwyddianus, hyd yn hyn, yw pob ymgais o eiddo'r peirianydd mwyaf dyfeisgar i ffurfio peiriant aîl fyned o hono ei hun yn barhaus. Prin y gellir dweyd fod unrhyw dduwinydd wedi llwyddo i gysoni yn fodd- haol Hollwybodaeth Duw ar un llaw, a rhyddid ewyllys ar ran dyn ar y llaw arall. Ond o bob dirgelwch, y mwyaf anhawdd ei esbonio yw bodolaeth a gweithgarwch dinystriol pechod mewn byd grewyd ac a iywodraethir gan Dduw sydd yn anfeidrol yn ei allu ac yn anfeidrol yn ei ddoethineb a'i gariad. Rhwymir ni i gredu fod Duw yn Holl- alluog yn nhiriogaeth mater; yn rhagweled gyda sicrwydd ganlyniad- au y telerau osododd i lawr yn nglŷn â bôdau moesol a rhesymol yn ei gread, ac fod y cyfan yn cael eu trefnu o dan reolaeth Doethineb a Chariad anfeidrol fawr. Y mae hyn oll yn cael ei ragdybied gan yr ystyr a gysylltwn â'r syniad o Dduw. Heb ragdybied bodolaeth y nodweddion hyn, ni fuasai Duw yn Dduw. Os yw y cread yn faterol a moesol wedi cael ei greu ac yn cael ei lywodraethu gan y Duw sydd yn meddu ar y nodweddion y cyfeiriwyd atynt, ai ni rwymir ni igredu, er nas gallwn ddirnad yn glir a llawn, fod yn rhaid fod yna esboniad yn bosibl ar y cwestiwn dyrys o fodolaeth pechod yn nglŷn â'r natur ddynol? Y mae haeru nas gallasai y cread a dyn fod yn wahanol i'r hyn ydynt yn cyfyngu ar adnoddau Duw fel un Anfeidrol ac yn wadiad o ryddid ar ran dyn Ond o'r ochr arall, pe yn haeru y gallasai Duw wneud byd gwahanol i hwn, a gwell na hwn, byddem ar unwaith yn dwyn cyhuddiad difrifol o esgeulusdra ar ran ei ddoetbineb neu ei gariad. Na, y mae ein ffydd yn noethineb Duw yn ein rhwymo î gredu y rhaid ei fod wedi gwneud y darpariadau doethaf oedd yn bosibl er mwyn sicrhau yr amcan goruchel oedd ganddo mewn golwg. Pe mai cynyrchu y swm mwyaf o hapusrwydd i'w greaduriaid fuasai amcan penaf Duw yn nglŷn â'r cread, buasai yn hawdd i ni ddal y dyb mai methiant mawr yw y cread. Ond pan y daliwn mai prif amcan Duw yw cynyrchu y swm mwyaf o ddaioni moesol, neu ber- ffeithio cymeriadau bôdau moesol, yna, nid mor hawdd yw profi fod y i o