Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—898. IONAWR, 1S97. Cyf. Newydd.—lî Y DONIAU DIFLANEDIG A'R GRASUSAU ANNIFLANEDIG. GAN Y PARCH. OWEN EYANS, D.D., LLUNDAIN. "Cariad byth nichwymp ymaith: eithr pa un bynag ai proffwydoliaeth.au, hwy a hallant; ai tafodau hwy a beidiant; ai gwybodaeth hi a ddiflana. Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo. Eithr pan ddelo yr hyn sydd herffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir, <S:c, &c. Yr awrhon y mae yn aros fl'ydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad."—1 Cor. xiii. 8—13. £lfc?/|SAE y bennod odidog hon yn un o'r gemau prydferthaf agwerth- ^föfh fawrocaf o fewn y Beibì i gyd. Mae rhai wedi ei galw hi,— 3Pä a hyny yn eithaf priodol,—yn "Salm Cariad," am mai molawd i'r gras mawr o gariad yw hi o'i dechreu i'w diwedd. Fel y sylwa yr athrylithfawr Fredrick Robertson, yn ei Ddarlithiau g^werthfawr ar yr Epistolau aty Corinthiaid, fe allesid yn naturiol ddysgwyl caely bennod ardderchog hon yn Epistol Cyntaf Ioan, yn hytrach nagyn un o Epistol- au Paul; oblegyd Ioan, fel y mae yn hysbys, oedd Apostoí carìad, tra mai Apostol^j'ẅ/oedd Paul. Yr oedd Ioan ei hunan yn ddyn llawn iawn o'r gras o gariad, ac yn nodedig o hoff o son am gariad; ac iddo ef, yn benaf, yr oedd yr Ysbryd Glan wedi ymddiried y gwaith o osod allan ardderchowgrwydd a phwysigrwydd cariad. Yr oedd Paul, o'r tu arall, yn ddyn o wybodaeth eang", ac o ffydd gref; a'i waith arbenig ef, fel Apostol, oedd egluro y lle mawr a phwysig sydd \ffydd yn nhrefn cadwedigaeth pechadur; ac eto, Paul ac nid Ioan, sydd yn rhoddi y flaenoriaeth i gariad ar ffydd, ac ar bob dawn a gras arall. Ac y mae doethineb Ddwyfol yn dyfod i'r golwg yn amlwg yn hyn; canys pe buasai Ioan yn gosod y goron ar ben cariad, fe allasai rhyw- rai gymeryd esgus ac achlysur oddiwrth hyny i geisio dadleu ei fod ef yn rhoddi y flaenoriaeth i gariad am mai dyna y rhinwedd a'r gras yr oedd efe ei hunan yn rhagori yn benaf ynddo; ond gan mai Paul—y dyn oedd mor enwog am ei wybodaeth, ei ddoniau, a'i ffydd—sydd yn dyrchafu cariad uwchlaw pob gwybodaeth, a dawn, a gras arall, nid oes lle i rithyn o amheuaeth nad yw cariad yn haeddol o'r flaenoriaeth a'r uwchafiaeth a roddir iddo yn y bennod hon. Fe ddengys yr Apostol i ddechreu, fod cariad yn rhagori ar bob dawn gwyrthiol. Yr oedd eghws Corinth wedi ei chyfoethogi â graddau helaethach o'r doniau hyn na'r un o'r eglwysi Apostolaidd eraill; ac yr oedd llawer yn yr eglwys yn tueddu i osod gormod o bwys a gwerth ar y doniau goruwchnaturiol hyn. Yn ngwyneb hyn, y mae yr Apostol yn rhoddi ar ddeall iddynt fod y doniau mwyaf, a'r cyflawn-