Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—893. HYDREF, 1896. Cyf. Newydd.—295. A YW BYWYD YN WERTH EI FYW? Job vii. 15, 16. GAN Y PARCH. H. ELWrN THOMAS, OASNEWYDD. MAE yn ffaith hynod o ddyddorol, er yn nn anhawdd ei hegluro, fod y drychfeddyliau mwyaf pruddaidd am fywyd dynol yn eiddo enwogion penaf y byd. Tryfrithir gorchest-gampau llenyddol y dàeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg—ffrwythau addfetaf athrylith farddonol, athronyddol, a duwinyddol, gan baragraffau yn llawn o brudd-der dwys, yn mha rai yr edrychir ar fywyd dynol fel baich gorlethol. Pe byddai pob gair wedi ei ysgrifeou gan ddeigryn, a phob brawddeg yn swn calon yn tori, ni byddai pmddglwyfedd Byron a Shelley, yn nghylch bywyd fel ei dadlenir yn Chìld Harold a Revolt of Islam yn fwy dygn a chwerw. Mor athrist ag isel-galon y teiuilwa yn yr olwg ar y prudd-der sydd yn nodweddu pregethau mwyaf meistrolgar Melvilie, Saurin, Robertson a Munger; ac mor lluddedig ein hysbrydoedd ar ol darllen tudalenau mwyaf g\ç teithiedig Emerson, Carlyle, a Ruskin. Nid yw y teimlad hwn yn gyfyngedig i lenyddiaeth ddiweddar. Cawn ef yn rhedeg yn amlwg trwy ysgrifeniadau Solomon, Anaxagoras, a Plato, yn ogystal a thrwy ddywediadau Ezecieî, Jeremiah, a Joel, a chanrifoedd lawer cyn geni yr hynaf o honynt ysgrifenwyd geiriau chwerwon y testun yn fynegiad o brofiad y mwyaf o'r patrieirch. Y mae yr Anaciaid athrylithgar hyn, yn nghyda llawer eraill o'u cyffelyb, yn y goiphenol a'r presenol, wedi bod yn synfyfyrio uwchben y cwestiwn pwysig "A y\* bywyd yn werth ei fyw?" a phob un wedi ei ateb ynei ffordd nodweddiadol ei hun. Er hyny, 'does yna 'runcwestiwn yn cael ei ofyn yn fwy awyddus a'i fyfyrio yn fwy dwfn yn yr oes ddysgedig hon na'r hwn y mae Job yn datgan ei feddwl arno mor athrist a negyddol yn adnodau*r testun. Gan ei fod felly yn "gwestiwn y dydd"—yn gwestiwn sydd yn meddu dyddordeb cyffredinol, cynygir ychydig sylwadau i ddarllenwyr y Dysoed- ydd arno yn y drefn a ganlyn:—Sylwn yn I. Ar y ffeithiau hyny mewn by\yyd y mae ystíriaeth 0 HONYNT YN EIN GORFODI I RODDI ATEB NA0AOL i'R CWESTIWN. Pe bae yn bosibl i ni rywfodd alla osgoi yr ochr dywell i bethau, f&l ag í allu rhoddi ateb cadarnhaol i'r cwcìtiwn oll-bwysig hwn, byddai ein ded- wyddwch yn fawr; ond nis gall cefnogwyr cryfaf yr ysgol hono o haner amheuwyr sydd mor boblogaidd yn rhai o drefydd ein gwlad wneud mwy na lledrith o haeriad fod bywyd daearol yn werth ei fyw er ei fwyn ei hun, tu fewa i'w derfynau, a chyfyngedig i'w adnoddau ei hun»