Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—870. AWST, 1894. Cyf. Newydd—270. aWAITH YR EGLWYSI GARTREF. GAN Y PARGH. G. GRIFFITH, LLANRHAIADR. ^I bu teimlad a chydweithrediad yr eglwysi i anfon yr efengyl i'r gwledydd paganaidd, erioed mor fyw a chyffredinol ac ydyw wedi bod yn ystod y tair blynedd diweddaf. Mae eu casgliadau wedi bod yn uwch, eu hunanaberthiad wedi bod yn deilyngach, a'u sel yn fwy eirias- boeth; ac o ganlyniad, eu hamcan aruchel o roddi "Beibl i bawb o bobl y byd," "A phregethu'r efengyl i bob creadur," wedi d'od yn nes i gael ei sylweddoli heddyw nac erioed. Nid yw hyn yn rheswm i laesu dwylaw, nac i arafu mewn angerddoldeb. Ond yn hytrach, i fyned yn y blaen, gan gadw yr yni i fyny nes dwyn yr anialwch a'r anghyfaneddle i lawenychu, ac anfon apostolion y groes a'r ad- gyfodiad led-led y ddaear. Mae y ffaith fod un Gymdeithas Genadol, sef Òymdeithas Genadol Llundain, yn bwriadu anfon cant yn ychwanêgol c genadon allan cyn 1895, a saith a thriugain eisoes wedi myned, yn profi fod yr eglwysi wedi d'od i deimlo, mai digon yw yr amser a aeth heibio i ranau mor helaeth o'n daear fod heb wybod am y Crist fu farw dros bawb. Ond tra yn barod i floeddio mewn llawenydd, yn yr olwg ar y rhagolygon Pentecostaidd mae yr eglwysi yn eu dal heddyw o flaen y byd paganaidd, a'r syniad trydanol o ddwyn holl deyrnasoedd y byd i glywed am y Óeidwad, cyn i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg redeg ei gyrfa i ben. A gawn ni ofyn yn onest, Pa beth mae'r eglwysi yn ei wneud gartref ? Dichon fod yr eglwysi yn y deffroad presenol yn tueddu i esgeuluso eu gwaith gartref, meddwl mwy am y gwaith sydd yn mhell, na'r gwaith sydd yn agos. Nid ydym wrth hyn yn tybio am foment fod eisieu arafu dim ar yr yni cenadol. Na, na, " Cerdd yn mlaen nefol dân," nes cymeryd raedd- iant o gonglau pellaf a thywyllaf y byd. Ond yn sicr, raae eisieu deffroi yr eglwysi yn ngwyneb y ffaith arswydus fod miloedd eto yn dal i wrthod yr Iesu, ac i esgeuluso moddion gras, hyd yn nod yn Nghymru hen wlad y Cymanfaoedd a'r diwygiadau mawr. Oes, oes, mae paganiaid eto yn Nghymru, nid yn unig yn ein trefydd mawrion a phoblog, ond yn ein pentrefydd tawèl a'n cymoedd prydferth. Ceir teuluoedd yn y naill a'r Uall, na welir mo honynt mewn ty addoliad unwaith mewn blwyddyn. Pa hyd y gall yr eglwysi oddef hyn, a bod yn glustfyddar i orchymyn eu Meistr mawr, "E\vch a chymhellwch hwynt i ddyfod i mewn fely llanwer fy nhy.'' Gallwn adeiladu capelau helaeth ac eglwysi prydferth, gallwn gynyddu mewn dylanwad bydol, gosod i lawr gynlluniau gyda medrusrwydd, a galw am weinidogaeth ddysgedig a thîlentog, ie, gall gweinidogion saetlíu mellfc afchrylifch, a tharanu niewn hyawdledd, gallant wasgu a chymhell gorch-