Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*Y DYSGEDYDD.* Hen üyp._851. IONAWlí, 1893. Cyf. Newydd-251. Y GAIR YSGRIFENEDIG A'R GAIR YMGNAWDOLEDIG. Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Gweinidogion Cymreig Llundain, Hydref lOfed, 1892, gan y Parch. Owen Evans, D.D. * Ito^ÉNWYL FRODYR,—Yr wyf, fel y gwelwch, wedi bod yn ddigon B^^Sjl rhyfygus i anturio dewis testun mawr, a thestun anhawdd ei I^Pjà^wl drafod yn deilwng. Ond gallaf eich sicrhau fy mod wedi y^^ al gwneuthur hyny, nid o herwydd fy mod yn ystyried fy hunan yn alluog i wneud dim tebyg i gyfiawnder âg ef; ond am fy mod yn teimlo nid yn unig ei fod yn destun dyddorol a phwysig; ond hefyd ei fod yn destun tra amserol; ac am fy mod yn hyderu, er nas gallaf fi fy hunan roddi ond ychydig o oleuni arno, eto, y ceir ymdriniaeth fuddiol ac adeiladol âg ef, trwy y sylwadau a wneir gan y naill a'r llall o honoch chwi ar y mater, yn nghwrs yr ymddyddan sydd, yn oi ein harferiad ynjy cyfarfodydd hyn, i ddilyn darlleniad y papyr. Nid wyf yn ystyried fod unrhyw ymddiheuradyn ofynol dros fy ngwaîth yn cymeryd y ddau Air—y Gair ysgrifenedig a'r Gair ymgnawdoledig— gydà'u gìlydd yn destun ymdriniaeth. Nid yn unig y mae perthynas a chysylltiad agos rhyngddynt â'u gilydd; ond y mae hefyd y fath gyfatebiaeth darawiadol rhyngddynt, fel y mae y ddau yn myned o dan yr un enwau a theitlau yn yr Ysgrythyrau; canys fe elwir y naill a'r Uall, er enghraiíft, yn " Air Duw," ac yn " Air y Bywyd," &c. Ac y mae y pethau a ddywedir mewn ambell adnod mor gymhwysiadol aty naill a'r llall, fel y mae esbonwyr cyfrifol yn anghytuno ar y cwestiwn, at ba un o'r ddau Air y cyfeirir ynddi. Mae digon o reswm, gan hyny, dros gymeryd y ddau gyda'u gilydd o dan ystyriaeth, gan edrych ar y berthynas a'r tebygolrwydd sydd rhyngddynt â'u gilydd, er fod hyny o angenrheidrwydd yn arwain i faes eang a gwasgarog. Gellir sylwi— I. Fod y Oair ysgrifenedig ar Gair ymgnawdoledig yn ddatguddiad o Dduio fel f)uw iachawdwriaeth. Mae y greadigaeth yn ddatguddiad o Dduw—o'i fodolaeth, ei allu, a'i ddoethineb,'&c. "Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw, a'r ffurfafen sydd yn mynegu gwaith ei ddwylaw ef." " Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyr- ied yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod," &c. Fel hyn, y mae Duw wedi ysgrifenu rhai o'i enwau, mewn Uythyrenau breision, ar ddalenau mawrion llyfr natur; ac yr oedd y rhai hyn wedi eu hysgrifenu cyn i ddynion gael eu crëu, fel y gallent ddechreu eu sillebu yn uniongyrchol ar eu dyfodiad i'r byd, yn gyffelyb fel y bydd yr * Cyhoeddir y papyr hwn ar gais unfrydol y brodyr oeddynt yn bresenol yn y cyfarfod. Ond teg yw hysbysu nad oes neb ond yr ysgrifenydd ei hun yn gyfrifol »Oi y ayniadau í^ydd ynddo.