Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—827. IONAWR, 1891. Cyf. Newydd.—227. j&tcrçUrçÿtò Mamlinwl g JFfa&î; <Brçefì|ìitmI. GAN Y PEIPATHRAW DOCTOR MORRIS. Y m.ìe nifer fawr o bersonau i'w cael yn ein dyddian ni, y rhai ydynt nid yn unigyn anffyddiaid (inûdels), ond yn ddidduwiaid (atheists), "heb obaith ganddynt, ac heb Dduw yn y byd." " A hon yw y ddamnedigaeth; ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni." Y mae eraill i'w cael y rhai nad ydynt yn gredinwyr nac yn anghredinwyr, ond cymerant eu safie ar ryw dir canolog, nid ydynt yn sicr fod Cristionogaeth yn wir, ac nid ydynt yn sicr ei bod yn dwyll, ni theimlasant gymaint a hyny o ddyddordeb yn y pwnc fel ag i ffurfio unrhyw farn benodol arno. Fel y Galio hwnw y darllenir am dano yn llyfr yr Actau, y maent heb ofalu am ddim o'r pethau hyn. Ceir llu o rai eraill a broffesant eu bod yn credu yn nghrefydd Crist, ond ni wna eu ffydd ddim, ni chyffroa yr enaid, ni ys- brydola y galon, ac ni santeiddia y bywyd. Nid yw y gyfryw ffydd yn ffydd o gwbl, ffug o ffydd ydyw, rhagfarn draddodiadol wedi deilliaw oddiwrth ein hynafiaid ydyw. Y cam cyntaf i'r bobl hyn ydyw cael eu hargyhoeddi o'u hanghrediniaeth a'u dwyn i lefain, Arglwydd, cadw ni, darfu am danom. Ond y mae rhai yn abl i ddywedyd, " Yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod mai tydi yw y Crist, Mab y Duw byw." Nid tebygoliaeth noeth yw eu ffydd, nid cydsyniad eiddil ac anwadal, ond argyhoeddiad trwyadl, sicrwydd diamheuol—sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. Nid yw tebygolrwydd syml yn ddigonol i amcanion crefydd. Ni saif y ffydd a adeiledir ar dybiaethau dynol ddim pan ei doder yn y prawf. Y ffydd sydd yn weithrediad yr Y^sbryd, a'r hon a gy- nwys sicrwydd llawn ynddi ei hun, yw yr un sydd yn abl i wynebu y dy- mhestl, ac i sefyll yn y dydd drwg. Proffesai yr env.'Og Dr. Franklin o'r America ei fod yn credu yn hynawfedd (baoyancy) y corff dynol mewn dwfr, os gadewid ef yn gwbl lonydd. Un diwrnod rhoddwyd prawf ar ei ffydd, syrthiodd i ddwfr dwfn, ac er nad oedd yn nofiedydd, eto trwy ymgadw yn berffaith dawel, cadwodd ar y wyneb hyd nes y daeth rhywun i'w waredu. Rhoddwyd prawf tanllyd ar ei ffydd, a dangoswyd ei bod o'r iawn ìyw. Ymhonodd eraill eu bod yn credu yr un gwirionedd a Dr. Franklin, ond pan eu rhoddwyd mewn prawf cyffelyb i'r eiddo ef, dangoswyd nad oeddynt yn gwirioneddol gredu yr hyn a broffesent. Wedi syrthio o honynt i ddwfr dwfn ymwylltiasant a buont foddi, a hyny am nad oeddynt yn credu yn hynawfedd y corff dynol, yn ol eu proffee. Heb sicrwydd diamheuol y ffydd grefyddol nis gallwn orchfygu y byd, y