Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—823, MEDI, 1890. Cyf. Newydd.—223- GAN Y PAROH. D. OLIVER, TREFFYNON. Ymdrechwn roddi hanes prawf yr Iesu yn ngoleuni yr adroddiadau a geir gan y pedwar efengylydd. "Wedi gwneud yr Iesu yn garcharor, dygwyd ef yn gyntaf yn foreiawn dydd Gwener, cyn iddi ddyddio, i dŷ Anas. Paharn? Nid oedd Anas yr adeg yma niewn swydd. Yr oedd yna gryn gyfrwysdra yn hyn. Er nad oedd mewn swydd, eto yr oedd yn un o'r rhai mwyaf dylanwadol yu y wlad. Yr oedd wedi bod yn Archoffeiriad, ac yr oedd pump o'i feibion wedi llanw y swydd ar ei ol. Ei fab-yn-nghyfraith, Cai- aphas, oedd yn llanw y swydd yr adeg yma. Wrth gymeryd y carcharor ato ef yn gyntaf boddlonwyd ei falchder a'i gywreinrwydd, a sicrhawyd ei gyd- ymdeimlad. Ni chofnodir gan yr un o'r efengylwyr yr hyn a gymerodd le o flaen Anas. Wedi bod o flaen Anas anfonwyd yr Iesa at Caiaphas: " Ac Anas a'i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaphas yr Archoffeiriad." "A'r rhai a ddaliasant yr Iesu a'i dygasant ef ymaith at Caiaphas yr Archoffeiriad; ac yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r Henuriaid wedi ymgasglu yn nghyd " (Mat. xxvi. 57). Nid hwn oedd y lle cyfreithlon i gynal y prawf, ond gallai y dewisid ef er mwyn cyfleusdra, neu ddirgelwch. Holwyd ef gan Caiaphas am ei ddysgyblion, ac am ei athrawiaeth. Wrth wneuthur hyn yr oedd yr Archoffeiriad am awgrymu ei fod yn ddyn peryglus, a bod yr hyn a ddysgai yn groes i'r gyfraith. Y mae y gofyniad hefyd yn tybio fod yr Iesu yn dysgu rhyw bethau dirgel i'w ddysgyblion. Ond yr Iesu a'i hetyb ef yn hyf a phenderfynol: " Myfì a leferais yn eglur wrth y byd; yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae yr Iuddewon yn ymgynull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim." Wedi iddo ateb y mae un o'r swyddogion yn rhoddi iddo gernod gan ei geryddu. Atebodd yr Iesu y swyddog, " Os drwg y dywedais, tystioíaetha o'r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i? " Cymerai y swyddog arno nad oedd yr lesu yn dangos digon o barch i'r Archoffeiriad, ond yr oedd ei ,vaith yn taro yr Iesa yn drosedd ar bob rheol. Amddiffynodd yr Iesu ei hun, a hawlia gan y swyddog brofì ei fod wedi gwneud dim allan o le. A'r Archoffeiriaid a'r Henuriaid, a'r holl gynghor, a geisiasant gau-dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth, ac nis cawsant; îe, er dyfod yna gau-dystion lawer, ni chawsant. Hyny yw, ni chawsant yr hyn a atebai eu dyben, am nad oedd eu tystiolaeth hwy yn gyson. " 0 'r fath watwar cyfiawnder oedd yno! Aent trwy y ffurf o wneuthur barn, tra y ceisiai y barnwyr eu hunain 2 c