Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—815. IONAWR, 1890. Cyf. Newydd.—215. GAN Y PRIFATHRAW DR. FALDING. (CYFIEITHEDIG GAN Y PARCH. H. IVOR JONES, PORTMADOC. ) * Hyderwn y bydd ein hyingais at gyflawni hyn yn dderbyniol gan luaws o ddarllenwyr y Dysgedydd, y rhai na chawsanfc y cyfleusdra o ddarllen yr Anerchiad yn yr iaifch y fcraddodwyd ef. Un rhagoriaefch amlwg a berthynai i Anerchiadau y Dr. parchedig ydoedd: Nid oeddynfc yn feichus o faifch; yn hyn rhagorai Dr. Falding yn fawr ar rai o'i ragflaenoriaid. Gyda hynyna o nodiadau arweiniol, cynygiwn i'r darllenydd gyfieithiad o'r Anerchiad gwerthfawr hwn. I. A ELLIR GWNEÜD CyNULLEIDFAOLIAETH YN FFAITH WIRIONEDDOL? Hyderaf, frodyr a chyfeillion, na fydd i ni byth golli golwg ar y syniad o'r hyn yw eglwys Gristionogol; am yr hwn syniad yn yr oesau o'r blaeu y dadleuodd ein fcadau drosto, ie, dros yr hwn yr oeddynt yn barod i ddwyn gwaradwydd, ac i ba un yr ydym ninau fel enwad yn parhau i ddwyn tystiolaeth. Yr ydym yn derbyn y darluniad Apostolaidd o'r eglwys fel cymdeithas o frodyr ífyddlawn; "wedi eu galw i fod yn sainfc," yn "frodyr sanfcaidd, cyfranogion o'r alwedigaeth nefol," ac yn ffurfio "brenhinol offeiriadaeth." Yr ydym yn dal mai yr offeiriadaeth o gredinwyr yw yr unig offeiriadaeth berthynol i Eglwysi y Testament Newydd, heblaw yr eiddo " Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni—Crist Iesu." Y mae y drychfeddwl yma o'r hyn yw eglwys, yn cau allan y syniad o urdd neillduol, a bod gweinyddiad y Gair a'r Ordinhadau, wedi ei fanwl ymddiried i'r cyfryw fyddo o fewn cylch yr urdd hwnw. Yn hytrach, y mae pawb sydd wedi eu huno â Chrisfc trwy ffydd, cariad ac ymgysegri ad ys- brydol iddo, y maent yn "offeiriaid," gwaith pa rai yw "rhoddi eu cyrff yn abérthau byw, santaidd, cymeradwy gan Dduw," gan "offrymu aberfch molianfc yn wastadol i Dduw," a "gwneuthur daioni a chyfranu," "canys â'r cyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw," ac i wneuthur "ymbiliau, gweddîau, deisyfiadau, a fchalu diolchdros bob dyD." Yr ydym yn dal gyda Tertullian, Awstin, Chrysostom, yn ogystal a holl ddysgawdwyr yr eglwys foreuol, pa beth bynag o bethau da yr efengyl a dderbyniodd unrhyw gredadyn, y gall efe fod yn gyfrwng trosglwyddiad y pefch hwnw i eraill—pa un bynag ai afchrawiaeth neu ordinhadau. Gall gyflawni pob peth perthynol i'r offeiriadaeth, a gydnabyddir gan yr eglwys Grisfcionogol. Nid ydym ni yn golygu fod unrhyw urdd o weinidogion * Yr ydym yn dra diolcbgar i Mr. Jones ani anrbegn ein darllenwyr â'r anerchiad amsierol a rnagorol hon.