Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDTDD: A'B HWN TB UNWTD " TE ANNIBTNWE.* AU HHUFEINIÁID V. 3, &c Ac nidjelty yn unig. Yr ydym yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Yn y byd arall, yn benaf, y mae y pethau y gobeithiwn eu cyrhaedd- yd, y pethau yr ydym yn gorfoleddu ynddynt. Duw ei hun, a'i ddarpar- iadau go^oneddus ar ein cyfer yn y byd a ddaw, yw testynau mawrion ein gorfoledd. Oblegid os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn, truenusaf o'r holl ddynion ydym ni. Y mae efe wedi penderfynu ein cydogoneddu ni gyda'i Fab, Iesu Grist; ac yr ydym ni i gael bod, yn mhen ychydig bachig- yn eto, trwy haeddianau gwaed y Cyfryngwr, a ffydd ynddo, a'n llafur Cristionogol er ei fwyn ef, a gwaith ei Ysbryd ef ynom, yn ein cymhwyso i fwynhau y pethau a ddarparwyd ar ein cyfer,—yr ydym, meddaf, i gael bod yn wastadol gyda'r Arglwydd—cawn ei weled fel y mae yn ddilen, ac ymddifyru yn ei Berson, a'i waith rhyfedd drosom, yn dragywydd. Mae yn naturiol i ni orfoleddu mewn pethau felly, a byddai yn annaturiol a phechadurus i ni beidio. Yr ydym yn gwneuthur felly; ond nid felly yn unig. Eithr yr ydym yn gorfoleddu rnewn gorthrymderau. Nid dywedyd yr ydym ein bod yn gorfoleddu mewn gorthrymderau, fel y maent ynddynt eu hunain, ac ar eu penau eu hunain; ond gan eu bod yn gysylltiedig â'n llafur ni fel Cristionogion yma, ac â'n gwobrwyon yn y byd a ddaw, a bod dyoddefiadau yr amser presenol hwn wedi eu modrwyo wrth y gogoniant a ddatguddir i ni, ac yn ychwanegu ei bwys a'i fawredd, yr ydym yn gor- foleddu ynddynt. "Mewn gorthrymderau." Nid yn eu canol yn unig, pan gylchynir ni ganddynt, ond ynddynt hwy eu hunain. Yr ydym yn*roi y gorthrymderau eu hunain yn destynau gprfoledd, gan gasglu grawnwin oddiar ddrain, a ffigys oddiar ysgall y gorthrýmderau eu hunain. Y mae yma ddau or argyfer eu gilydd. GoBdtymderau; sef, trymderau mor fawr fel inai prin y gall dyn gynal danynt; gofidiäu mor finiog a llymion, fel y maent yn treiddio trwy ddyfnderoedd ein calonau: a Goafoledd yn eu gwrthbwyso. Gorfoledd—dyddanwch, cysur, llawenydd annhraeth- adwy a gogoneddus, yn llenwi ein heneidiau, a mwy na'u llenwi; yn llifo megys dros eu hymylon, fel dyfroedd yn llifo dros y llestr a'i derbynia—fel llifeiriant yr Iorddonen ar ddyddiau y cynhauaf yn tori dros holl geulenydd ei ffrydle. Mor gymhwys ydyw hyn oU! Gorfoledd mewn gorthrymderau—uchelderau gorfoledd yn cyfateb i ddyfhderoedd gofidiau a helbulon. Yr òedd yr apostolion yn myned o wydd y cynghor yn Uawen, am eu cyfrif yn 'deilwng i ddyoddef anmharch er mwyn enw yr Arglywdd GOBPHENAF, 1873. N .