Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD à'K HWN YE ÜNWYD " YB ANNIBYNWR.' I FYFYRWYÍi ATHROFA Y BALA, MAWRTH, 1873. Gan y Parch. R. Parry (G-walchmai), Llandudno. Fy ANWYL FRODYR IEUAINC, A THADAU YN YR EFENGYL,— Y mae yn amlwg maiprifamcaneincolegauydyw meithrinrhai cymhwys i lanw ein hareithfaauyn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, er bod yn athrawus eu hunain, ac yn gymhwys i hyfforddi rhai eraill. Mewn oes ag yr addefa pawb o bob gradd werth gwybodaeth a dysgeidiaeth i bob dosbarth, ac yn enwedig i weinidogion yr efengyl, byddai arfer llawer o res- ymau i brofi byny yn afreidiol. Y mae y bugai) i íod yn arweinydd i'r praidd, ac yn alluog i'w porthi â gwybodaeth a deall; ond os na bydd efe yn mlaen ar y cyffredin, y gofyniad a gyfyd yn naturiol yn meddwl y cyhoedd fydd, " Tydi, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni ddysgi dy hun?" Y mae pob ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, i fod mor barod i ddwyn gerbron ei wrandawyr athrawiaeth iachus, foreuol a diweddar, ag ydyw y gwr o berchen ty i osod gerbron ei wahoddedigion, ddanteithion o bob tymor a gwlad. Y mae gwybodaeth i'r meddwl, y peth ydyw yr ymborth i'r corff. Y mae meddwl cryf mewn corff iachus yn werthfawr iawn. Y mae yn ofynol i'r pregethwr fod yn gyfoethog yn nhrysorau y gwirionedd, ac yn fedrus yn y gelfyddyd o gyflwyno y trysorau hyny i eraill. Y mae y gwein- idogion, yn anad neb, yn nghanol cenedlaeth ddrygionus a throfäus, i ddys- gleirio fel goleuadau yn y byd, er arwain y byd tywyll o lwybrau cyfeiliorn- ad i'r iawn, ar y brif-ffordd sydd yn arwain tua dedwyddwch y nef. Dyben goleuo y ganwyll a'i dodi ar ganol y bwrdd, ydyw fel y byddo iddi lewyrchu i bawb a fyddo yn y ty. Dichon fod arucheledd natur eich galwedigaeth chwi, fy anwyl frodyr ieuainc, yn gofyn am y lle blaenaf yn ein hanerchiad. Dyma y gwaith a'r swydd uchaf ag y gall dyn ymaflyd ynddynt. Yr oedd yn rhaid fod yr apostol yn f^imlo hyny, pan y torai allan i ofyn, tl Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" Chwi sydd i fod yn arweinwyr i bechaduriaid colledig, at foddion eu hadferiad, ac at ffynonau iachawdwriaeth. A chwi y mae yn rhaid i'ch gwrandawyr ymofyn am drefn gwaredigaeth enaid. Pe byddai dyn mewn petrusder am ei feddianau bydol, gallai ymgynghori â'r cyfreith- iwr. Pe byddai dyn mewn pryder am ei iechyd, gallai ymgynghori â'r meddyg. Mai, 1873. i