Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'e hwn te ünwtd "te annisynWe." êicmrfjr €xÌBÌf kî ^ntWmnL "GcTAafyddo i chwi a heddwch oddiwrth Dduw Dad, a'n Harglwydd Iesu Grist; yr hwii a'i rhoddea ei hun dros ein pechodau, fel y'n gwareder ni oddiwrth y byd drwg presenoì, yn ol ewyllys Duw a'n Tad ni: I'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. GAL. i. 3-5. Pan y gelwir am warogaeth gwlad i unrhyw ddyn, yn mha gylch bynag ý byddo'n troi, ymofynir, a hyny yn drìigon rhesymol, pa beth a wnaeth i deilyngu y fath anrhydedd. Os rhyfelwr fydd, gofynir, pa wrhydri milwrol a gyflawnodd ì Os gwleidyddwr fydd, pa ddiwygiad cyfreithiol a ddygodd oddiamgylch ì Neu, os dyngarwr fydd, pa abertbau personol a wnaeth, a pha amcanion cyhoeddus a gyrhaeddodd í Y mae y testun hẃn yn hawlio gogoniant i Waredwr, ac yn rhoddi ei reswm dros hyny. " Ỳr hwn ai rhoddes ei hun dros ein pechodau, Jel yn gwaredai ni oddiwrth y byd drwg presenol, yn ol ewyllys Duw a'n Tad ni." Cyfeirir ni yn y geiriau afc bwnc mawr, a phwnc mwyaf yr efengyl i'r byd, sef, Yr hyn a tŴAÜTH Crist dros ddyn yn nyddiau Er gnawd. Ni a gawn olwg yma ar y weithred yn ei Natur,—yn ei Ilamcan,—yn ei Chymhelliad,—ac yn eì Eaeddiant. I. Hònir yn y testun fod Crist wedi gwneud peth mawr dros ddyn, a'r peth mwyaf a allasai wneud. " A'i rhoddes ei hun dros ein pechodau." Deallwn ymadrodd fel hyn yn hawdd pan y mae yn cael ei arfer rhwng dyn a dyn. Pan ddywedir i ni fod y naill ddyn yn rhoddi ei hun dros y llall, yr ydym yn deall ei fod yn ymgymeryd â'i sefyllfa yn ei natur a'i chanlyniadau. Os dyledwr fydd, rhaid iddo dalu y ddyledj neu, os troseddwr, rhaid iddo ddwyn y gosìx Hòna yr efengyl fod Crist yn weithredol wedi gwneud hyn drosom ni. Efe a'i rhoddes ei hun drosom. Ymgymerodd â'n sefyllfa, ac â'i chanlyniadau. A chan mai troseddwyr oeddym ni, rhoddwyd " cosbedigaeth ein heddwch ni arno ef." Eglurir hyn yn mhellach mewn ymadroddion eraill, megys y rhai canlynol:—" Myfi yw y bugail da; y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid." "Canys Crist, pan oeddym ni etto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol." " Ỳr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren." " Oblegid Crist hefyd unWaith a ddyoddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw." Rhed ein meddwl yn naturiol at ugeiniau o ymadroddion cyffelyb. Os nad oes aberth—rhyw daliad iawnol—dros bechodau, mewn Tachwbdd, 1872. x