Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDÌ GYDA R HWN Y MAE YK " ANNIBYNWR" WEDI EI UNO. ÿ? Älacs ©enatml. CENADON ENWOG. VI. WILLIAM CAREY. Bedyddiwr ocdd Carey, ac efe, yn benaf, a fu yn oíTcrynol i gychwyn Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr, yr hon ydoedd y Gymdeithas Genadol gyntaf a sefydlwyd yn Mhrydain Fawr. Cefnogid ef yn hyn, mae yn wir, gydag aidd neillduol, gan yr enwog Andrew Fuller, yr liwn, o ganlyniad, a rcstrir gyda Carey, fcl sylfaenwyr arbenig y sefydliad cryf a dylanwadol dan sylw. Ganwyd William Carey mewn pentref dinod yn swydd Northampton, yn y flwyddyn 1761. Gan mai ci dad ydoedd ysgolfeistr y pentref, safai y bachgen mewn gwcll mantais i ddyfod yn ddyn dysgedig na llawer. Fel y tyfai i fyny, gwclid ei fod yn neillduol hoff o ddarllen llyfrau, yn enwedig llyfrau yn cynnwys hanes llafur a theithiau enwogion. Pan yn blentyn cliwech oed, mynyeh y bu ei fam yn gwrando arno yn adrodd gwersi mewn rhifyddiacth wrtho ei hun yn nyfnder y nos, pan fyddai y gweddill o'r teulu yn cysgu yn cithaf tawel. Sylwai bob amser gyda manylwch arbenig ar bob peth cyffredin ac anghyffredin a ddelai yn ci ftbrdd. Ni byddai byth yn segur, eithr fel y wenynen ddiwyd, casglai yn barhaus erbyn amser i cldyfod. Sylwid fod ci ddyfalbarhad yn rhyfeddol. Mynai orphen yr hyn a ddechrcuid ganddo cyn myned at waith arall. Nid oedd anhawsderau chwaith yn effeithio er ei ddigaloni. Rhwng pob peth, gallesid tybicd y daethai William Carcy rywbryd, gyda rhad y nef, yn ddyn enwocach na chyfFredin. Ond yr oedd ei rieni yn dlodion, ac ni chaniatâi ci iechyd yntau y pryd hwnw iddo ymgymeryd â galwcdigaeth a ofynai lawer o egni i ymwneud â hi; felly penderfynwyd ei brentisio yn Grydd. Yn fuan ar ol iddo ddechreu gyda'i waith yn y fíbrdd hon, daeth o hyd i hen Eirlyfr a Gramadeg Llad- inaidd, a chyn pen nemawr o amser, yr ydoedd wedi cyrhaedd yranrhydedd o fod yn Lladinwr cnwog. Yn ddiweddarach, trodd ei sylw at ieithoedd dysgedig craill, a chynnyddai ynddynt gyda rhwyddineb rhyfeddol, heb dderbyn nemawr gynnorthwy oddiallan. Ac nid gyda phethau fcl hyn yr ymdrafferthai Carey ieuanc yn unig, eithr talai sylw dyladwy hefyd i'r pethau a berthynent i'w hcddwch tragwyddol. Pan ydoedd oddeutu un- arbymtlieg oed, bu un o'i gymdeithion ieuainc, yr hwn yn ddiweddar a ddychwelasid at grefydd, yn offeryn yn llaw yr Arglwycld i effeithio