Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: GYDA'R HWX Y MAE " YR ANNIBYNWR" WEDI EI VSO. DAELUN Y EHAGRITHIWE, MATTHEW Vn. 21-23. Mae anibell destun yn y Beibl fel niynydd tanllyd, yn ardderchog i edrych arno oddidraw, ond yn ofnadwy i agosâu i'w gymydogaeth. Buom yn meddwl lawer gwaith, y buasai yn dda genym weled mynydd Vesuvius wedi nos, pan fyddo'r mwg a'r fflamau yn ymddyrehafu o'i geudod yn dorchau tua'r nen, a'r ufel tanllyd yn ífrydio yn afonydd ar hyd ei lechweddi, a'r cyfan yn cael ei bortreiadu yn y môr llyfn, llonydd, tawel, sy'n gorwedd wrth ei waelod. Bhaid fod yr olygfa yn íawreddog tuhwnt i ddysgrifiad. Ond y mae y syniad o ddringo'r mynydd ar y fath adeg, ac edrych ar y peryglon a'r diuystr yn eu hwyneb, yn llanw y fynwes âg arswyd. Gallwn ddywedyd yr un peth am amry w o destunau y Beibl. Hawdd iawn eu hedmygu oddidraw, a rhyfeddu at y meddylddrychau sydd yn gynnwysedig ynddynt; ond pan ddeuwn dipyn yn nes atynt, pan fanylwn ychydig ar eu cynnwysiad, pan ddeuwn wyneb yn wyneb â'r gwirioneddau a draethant, yr ydym yn cael ein meddiannu â dychryn, ac arswyd, a braw. Testun felly ydyw yr un sydd uwchben ein hysgrif. Mae gwaith yr Arglwydd Iesu yma yn cyfodi cẃr y llen, i ddatguddio un o olygfeydd y farn ddiweddaf, yn tueddu i foddio ein cywreinrwydd; ond nis gallwn fyfyrio yn ddifrifol uwchben yr olygfa, heb i'r galon grynu gan arswyd. Cawn yma ddarlun cywir o'r rhagrithiwr, yn nghyda'r dynged ofnadwy sydd yn ei aros. Fel pob darlun braidd a dynodd Crist, y mae y darlun yma yn awgrymu llawer mwy nag y mae yn ei osod allan yn bendant. Agorir y drws i'r dychymyg dreiddio i mewn i ffeithiau nad ydynt etto wedi eu llawn egluro. Mae yma un gair sydd yn deilwng iawn o'n sylw,— "Llawer." "Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw.'' Awgryma hyn mai nid ychydig sydd o ragrithwyr ; ond eu bod yn lluosog yn y byd hwn, ac y bydd tyrfa fawr o honynt yn y farn. Mae hwn yn syniad difrifol iawn. Mae yn alarus meddwl fod rhagrithwyr yn lluosog yn mhob cynnull- eidfa. Dylent, o ganlyniad, gael sylw priodol yn ngweinidogaeth yr efengyl. Gallwn sylwi yma fod rhagrith o bob natur, yn gyífredin yn ffrwyth gwareiddiad. Y gwledydd uchaf mewn gwareiddiad, ydyw y rhai mwyaf nodedig am bob math o fíug. Meddyliwn am fynyd am wlad farbaraidd. Rhyw ychydig niewn cymhariaeth o dwyll-ymddangosiadau sydd yn mhlith j trigolion. Wyddant hwy fawr am y fíasiynau gweigion sydd yn caethiwo gwledydd eraill. Maent yn ddyeithiiaid hollol i'r gwahanol ffurfiau o foes Rhaopyr, 1866. 2 l