Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EURGRAWN WESLEYAIDD, 1M MAWRTH, 1847. Rhif. 3. Cyfres Newydd. Cyf. 39. BUCHEDDIAETH. -------♦— BYR-GOFIANT AM MORGAN POWELL, MYNYDD-BACH, CYLCHDAITH ABERYSTWYTH. Morgan Powell ydoedd fab i Morgan a Margaret Powell o'r Rhyd- domlyd, plwyf Llanfihangel-y-creuddyn, swydd Aberteifi. Efe aaned yn y fiwyddyn 1819. Y mae ei dad a'i fam yn aelodau ífyddlon o'r gym- deithas Wesleyaidd yn y Mynydd-bach er's yn agos i ddeugain mlynedd; a'i dad yn un o'r hen Flaenoriaid henaf yn y lle, os nad yn un o'r rhai henaf yn y Gylchdaith hon; o herwydd paham, cafodd Morgan ieuanc y fraint o gael ei hyfforddio yn fore yn mhen y ffordd dda, a'i addysgu i gofìo ei Greawdwr yn nyddiau ei ieuenctid; a chan ei fod yn blentyn o dymher hynaws ac ufydd, efe a gymerth ei arwain yn rhwydd ar lwybrau moesoldeb a rhinwedd; ac efe a addysgwyd er yn fachgen i wybod yr ys- grythyr lân, yr hon oedd abl i'w wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth. Ni chafodd ei rieni un gofid oddiwrtho, o'i febyd i'w farwolaeth, o herwydd camymddygiad, yn gymaint a'i fod bob amser mor ostyngedig ac addfwyn, ac mor barod i ufyddhau iddynt a'u boddloni yn mhob peth, ac ar bob achos. Cyn ei ddychwelyd at grefydd, yr oedd ei ymddygiad yn mhob man yn arddangos un yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Nid oedd raid byth ei annog i fyned i foddion gras; yr oedd bob amser yn barod i fyned pan y eaffai gyfìe. Eisteddai dan y weinidogaeth fel un yn ymofyn am addysg a lles ysbrydol wrth wrando. Yr oedd yn" ddiwyd iawn gyda'r Ysgol Sabbothol er yn blentyn: dysgai bob gwers a roddid o'i flaen, yn rhwydd a chyflawn. Pan fyddai yr Ysgol yn cael ei holi ar unrhyw bwnc, yr oedd ef braidd bob amser yn rhagori ar bawb yn ei atebion. Dychwelwyd ef at yr Arglwydd yn y flwyddyn 1840. O berthynas i'r modd y cafodd ei argyhoeddi o'r angenrheidrwydd o ymofyn am gyfnewid- iad calon, efe a goffäai wrth ei dad, y diwrnod cyn ei farwolaeth, mai yr ychydig eiriau a ddywedasai efe wrtho i'r perwyl hyny, tuag amser ei ddychweliad, oedd wedi effeithio ar ei galon. Y mae Morgan Powell henaf yn cofio ddarfod iddo, mewn ymddyddan rhyngddo a'i anwyl fachgen y pryd hwnw, ddywedyd wrtho yn debyg i hyn : " Bydd yn flinder mawr i mi, fy machgen, os byddaf farw heb dy weled di yn y win- Han ; a bydd yn fiinder mawr i tithau os byddi farw allan o'r winllan." Adgofiai yr ymddyddan dedwydd hwnw gyda theimlad effrous a bywiog, gan foliannu yr Arglwydd am gael y fraint o ddyfod i'w winllan. " O mor dda yw gair yn ei amser!" medd y gŵr doeth. Ac O " mor dda" i Morgan Powell heddyw fod ei dad wedi llefaru y geiriau hyn wrtho! Er mor ddy- syml a diaddurn oeddynt, eto, gan eu bod wedi eu llefaru o galon deimlad- wy y tad, bu wiw gan yr Ysbryd Glân eu hargraffu ar galon y mab. Ac "mor dda" i'w dad ydyw adgofio ddarfodiddo gael yranrhydedd o fod yn i * Cyf. 39.