Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

249 NEWYDDION. CREFYDDOL. Y GENADAETH. MYNAÜ BLYNYDDOL Y GYMDEITHAS GENADOL WESLEYAIDD. Y mae Mynag blynyddol y Gymdeithas Genadol Wesleyaidd newydd ddyfod i'n llaw, a diau y bydd yn ddifyr gan ein dar- llenwyr gael y talfyriad byr canlynol o hono. 'Y mae gan y Pwyllgor hyfrydwch a boddlonrwydd llawer mwy na chyffredin wrth gyfarfod y Gymdeithas a'i Chyfeillion yny Cyfarfod Blynyddol hwn. Arolym- drech galed a phoenus am lawer blwydd- yn, yn cael ei achosi gan annigonoldeb hir-barhaol ei chyllid blynyddolrheolaidd, er mor helaeth a cbynjddol y mae y cyllid hwnw wedi bod, i gyfarfod â'r draul barbaus gynyddol ag oedd yn an- hebgorol ofyniT er cynaliaeth effeithiol ei Chenadaethau belaeth-ledaenol, ac er attal ymgasgliad dinystriol o ddiffygion ac anhawsderau; y mae gan y Pwyilgor y/i awr y gorfoledd calon o fynegu fod dydd dysgleiriach wedi gwawrio, a bod y Gym- deithas y funud hon allan o ddyled, gyda golwg ar y flwyddyn 1845 a'r blynyddau blaenorol. Rhoddant yr hysbysiad hwn, fel rhagarweiniad i'w Mynag presenol, mewn gorfoledd gostyngedig, mewn di- olchgarwch gwirioneddoli Dduw, a chyda chydnabyddiaeth diolchgar i'w holl gyf- eülion cristionogol gartref, ac i'r Cenad- on anwyl a'u Cynorthwywyr haelfrydig mewn amrai o'r Sefydliadau Tramor, am J'i' ytndrecbion cydunol a'r cyfraniadau cynyddol byny trwy ba rai, dan y fendith Ddwyfol, y mae y teifyniad dedwydd hwn wedi ei gyraedd o'r diwedd. Eu gweddi daer yw ar Dduw pob gras, ar fod i'r nwyddyn bresenol, a phob un ddyfodol, fod mor Uwyddianus, yn gystal yn arianol aS yn ysbrydol, ag y mae 1845 wedi bod, ie, ynllawer mwy felly.' Ereinbod wedi rboddi bras-gyfrif yn j un o'n rhifynau diweddaraf o gyllid a J thraul y Gymdeithas, eto diau genym mai ; ua fydd gan ein darllenwyr gael y cyfrif ! manylaidd ag a roddir i ni yn y Mynag. ' I. Y mae cyllid y Gymdeithas, am y nwyddyn a derfynai Rhagfyr 31ain, 1845, wedi cyraedd y swm siriol o P. 112,823, 9s 6c, chwaneg na'r hyn a gasglwyd am 1844oP.7l36.3s. llc. ' °'r cyfanswm yma, casglwyd gartref y swm o P.92,115, 17s. 2c. Y mae y der- oyniad cartrefol yma yn cynwys cyfraniad- au o P.4486,9s. 8c. fel Otfrymau Nadolig yr Ieuengctid, y rhai a dderbyniwyd mewn pryd i'w dodi yn y Daflen am 1845, yr hyn sydd yn cbwanegiad ymddangosiadol o P.1571, 14. lc. dan y pen hwn. Daeth symau chwanegol i law yn rhy ddiweddar i'w dodi fel hyn yn y cyfrif, ond cymerir hwyigyfrify flwyddyn 1846: credir fod holl ymdrech yr Ieuengctid am y flwyddyn wedi codi P.5500. Am y chwanegiad am- serol a derbyniol yma at eu ffynonellau blynyddol o ddefnyddioldeb byddi'r Gym- deithas, gyda'r Pwyllgor, deimlo yn ddwys- ddiolchgar i'rpleidiau ieuaingc ffyddlawn. ' Yn y cyfanswm rhag-grybwylledig y mae hefyd yn gynwysedig y swm tra boddhaol oP. 11,674, 4s. 7c, wedi ei dder- byn o amrywiol Sefydliadau Tramor, chwanegiad dan y pen hwn o P.1897, Os. 5c Ymae y swm yma, dylid cofio,yn chwa- negol at symau llawermwy aga gyfodwyd gun y sefydliadau hyny tuag at eu traul leol eu hunain, mewn trefn i leihau eu gofynion ar y Drysorfa Gyffredin gartref tuag at gynal eu Gweinidogíon Cenadol. •II. Cyraeddodd traul y Gymdeithas yn 1845 i P. 104,366, 19s. Y mae lleihâd yma o P.4821, 7s. 3c , wrth ei gymharu à 1844 ; yr hyn sydd i'w gyfrif yn benaf i'r teimlad tirion a da, a'r ysbryd o aberth gwirfoddol, a amlygwyd gan ein rhagorol Genadon eu hunain, a chan y bobl ag y maent yn gweinidogaethu iddynt; ac hefyd i'r gweithrediad cynilaidd o rai trefn- iadau arianawl a fabwysiadwyd ac a drefn- wyd gan y Pwyllgor, gydagolwgar Rodd- ion Blynyddol i'r Sefydliadau dibynol. Wrth wneyd y cyfryw drefniadau, y rhai a wasgwyd arnynt gan angenrheidrwydd, a chan ystyriaeth bendant o ddyledswydd gyhoeddus i'r cyfranwyr, Rheoleiddiaeth a Chwtogiaid ystyricl oeddent y gwrth- ddrycbau a gedwid mewn golwg; nid y llwyr-roddiad ifyny o unrhyw genadaeth ddefnyddiol, cybyd ag y gellid modd yn y bydysgoi y canlyniad torcalonus hwnwyn onest. Y maent yn y modd difrifolaf yn dy- muno cael eu gosod mewn amgylchiadau ag a'u galluoga i adgyfnerthu amrai o'r sefydliadau yn ddioedi, y rhai, o ddiffyg chwaneg o Ẅeinidogion a Bugeiliaid Cen- adol, ydynt yn dyoddef colled barbaus a thrallodus, yn arianol yn gystal ag yn ys- brydol. I'r gwrthddrych anhebgorol hwn y maent yn awr, yn eu sefyllfa wellaol gyda golwg ar foddion, yn gobeithio talu eu sylw cynarol adifrifol; a hyderant y cânt eu cefnogi yn galonog gan gymerad- wyaeth, a chan gyfraniadau parhaol a chwanegol y Gymdeithas a'i chyfeillion.' Rhydd y Mynag olwg gyffredin ar sef- yllfa arianawl y Gymdeithas, oddi wrth yr hyn yr ymddengys fod mewn Uaw, i'vr