Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

230 AMRYWIAETH. fol a bwytasant ei afu, am na buasai yn plygu i'w delwau hwy ; ond barn Duw a'i daliodd hwythau, oblegid eu danedd a syrthiasant o'u genau, eu tafodau a bydr- asant, a'u golygon a gollasant. Pan oedd erlidiwr unwaith yn Antwerp yn myned gyda'i wraig drosbontyn mhen y dref, safodd y meirch, hyd oni ddolefodd efe yn ddigllon with y gyrwr, atn iddo fyned yn mlaen yn enw mil o gythreuliaid. Ar ol hyny cododd corwynt disymwth, er fod yr hîn yn deg o'r blaen, ac a daflodd y cerbyd dros y bont i le dwfn, lle y trengodd ef a'i wraig. Bu farw Gardiner a'i dafod allan o'i enau, fel pe buasai eisioes yn uffern heb ddafn o ddwfr i'w oeri. Mary y frenines hefyd a wnaed yn nod i saethau y Jehofa. Llawer ereill aallesid eu crybwyll, y rhai a ymadawsant â'r byd hwn àg aiwyddion amìwg o anfoddlonrwydd Dnw arnynt. Nid yw jr Arglwydd yn ddisylw o'i blant,—' a pheth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw yDuwbyw.' Gristionogion, cy- merwch gysur, mae Duw gyda chwi, yr ydycb yn anwylganddo, yrydych ynblant iddo, chwi a orchfygwch eich holl elynion drwyddo. Amen. Dewi Gwent. GWEDDI. Gweddi sydd geuad anfoneóig o'r ddaear i'r nef, er dwyn trysorau y nef i'r ddaear; —allwedd aur i agor drws y Salem new- ydd, îe, yr unig allwedd ag sydd ynffîtio cloion ystordy gras ;—tarian, â pha un y diogela y Cristion ei hun rhag picellau tanllyd y fall ;—magnel â'r hon y saetha at gaerau pechod, a thrwy yr hon y dyin- chwela dyrau uffern ;—amddiffynfa i ba un y rhed am ddiogelwch rhagymosodiad- au ei elynion ;—deiseb yn cael ei hanfon i'r llys nefol, am weüàd (reformation) yn y galon;—cerbyd yn teithio o fyd y prin- der i wlad y digonolrwydd,—yn cychwyn yn llwythedig àg erfynion a dymuniadau, ac yn dyfod yn ol yn Uawn o fendithion a thrugareddau, rhag attal rhediad yr hwn y mae yr haul a'r lleuad cyn hyn wedi sef- yll;—llong yn cludo ein gweithredoedd da, y rhai a droir yn drysorau i'n cyfoeth- ogi yn nghyfnewidfa yr lawn, ac er ei fwyn yn unig ;--ysbiwr a anfonir i weled ansawdd y • wlad well/ ac a ddychwel a chanddo gyflawnder o ffrwythau parad- wys, blodau anfarwoldeb, a grawnsypiau y Ganaanfry; —gwenynen brysur, yn sugno melusderau o ardd y pomgranadau;— gwythien (vein) o aur, yn rhedeg o'r galon grediniol hyd at fwnglawdd yr ' an- chwiliadwy olud ;'—curiedydd (knocker) wrth ddrws trugaredd rad, trwy guro â'r hwn y ceir cardod dda gan ŵr y tỳ ;—un o fronau yr iachawdwriaeth, trwy sugno yr hon y mae y babanod yn cael eu porthi â'r ' didwyll laeth,' ac yn cynyddu trwy- ddo ef, nes dyfod yn ddynion perffaith at fesur oedran cyflawnder Crist;—pibell, âg un pen iddi yn y galon, a'r llall yn môr yr iachawdwriaeth, gorfoledd yr hon a red trwyddi i enaid y credadyn ;—ffon y dyn da rhag syrthio i brofedigaeth;— rhwyf, à'r hon y mae yn gyru cwch gob- aith yn mlaen arhyd fôr cynhyrfus bywyd ; —rhaff yn cyraedd hyd at angor ei enaid, yr hwn sydd yn ddiogel tu fewn i'r Uen ; —dibynai (pendulum) yr enaid duwiol, yr hwn os saif, yr holl beirianau ereill a safant ac a rydant;—llythyr yn cael ei an- fon o ddinas Mansoul,—yn cael ei selio gan lân Ysbryd yr addewid,—ei gyfar- wyddo at lesu Grist, Cyfryngwr y Testa- ment Newydd,—eiddodi yn lljthyrfa ang- eu y groes,—ei gludo gan fTydd, yn fyrdd cyfiymach na'r llythyr-gerbyd breninol, ar hyd y ffordd newydd a bywiol,—yn cael ei ddodi yn ddiogel yn nwylaw Crist,—yn cael ei agor, ei ddarllen, yn derbyn ei sylw grasol, ac wedi gwneuthur diheurad (apology) eirioleddus dros ei wallau, ac ysgrifenu â'i waed yn ei waelod, ' Pa beth bynag a ofynwch i'r Tad yn fy enw i, gan gredu, efe a fydd i chwi,' yn ei osod yn llaw ei Dad, yn cael ei gymeradwyo yn unfrydol, ac atebiad helaethach na'r or- ders yn cael ei anfon gyda throad y post. —Ddarllenydd, dywed dithau, ' Minau a arferaf weddi.' Henry Parry. Machynlleth, IIANESYN AM ARCIIESÜOB USHER. Darfu i James Usher, Archesgob Armagh, a Phenesgob holl Iwerddon, dirio yn Nghymru, a theithio ar dracd i Gaer-