Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR €urgraton afôîesiepaítil), NEU DRYSORFA, ÓfC.ÓfC. Rhif. 4.] EBRILL, 1820. [Cyf. 12. BYWGRAPHIADAU. HANES BYWYD A MARWOLAETH Y PARCHEDIG DAFYDD JONES. [Parhad o tu dal. 70.} Dydd-lyfr ei for-daith o Lundain rr India Orllewinol. Tach. 22. 1817. " Dyma y diwrnod yr aethym ar fwrdd y-llong Truine, Cadben Small, yn ngwaelod y Llong-byrth fr India Orllewinol (West India Docks), oddeutu llddeg o'r gloch A. M. ynghyd a phedwar eraill o Gennadau (Mis- sionaries), sef, Meistriaid Smith, Bellamy, Chapman, a Maddock, a Mrs. Bellamy ; ac yn awr yr ydym yn gorwedd wrth angor, haner awr wedi wyth o'r gloch P. M. oddeutu haner y ffordd rhwng' Llundain a Graresend. Bwrw angor yma, oddeutu tri o'r gloch. Cadwasom gyfarfod gweddio am saith o'r gloch, ac yr oedd hi yn wir yu amser da;. teimlais hyder y gwaredai yr Arglwydd ni oll, i gyrhaedd yr India Orllewinol. 23. " Yn agos i naw o'r gloch (Sabboth) P. M. Yn gor- wedd wrth angor, allan i Grauesend; hwyliasom oddi yno oddeutu deuddeg o'r gloch; darilenodd Mr. Maddock was- anaeth yr Eglwys, a phregethodd Mr. Smith yn y cabin y boreu heddyw,. oddiwrth Mat. viii. 23,—28. ac yr ydym yn bwriadu cael cwrdd gweddi yn y cabin, bob boreu a hwyr o hyn allan, a darllen y Salmau priodol i'r diwrnod; y mae i'r holl longwyr a all ddyfod, fod yn bresenoJ. : 26. " Am ddau o'r gloch P. M. Yn gorwedd wrth angor allan i Deal, hwyliasom ymaith oddi alían i Grtwesend y pedwerydd ar hugain, a chyrhaeddasom yma oddeutu pump P. M. a chodasom angor borau ddoe, oddeutu haner awr wedi un-ar-ddeg, a hwyliasom i'r cyfyng-for; ond yr oedd y gwynt yn groes, am hyny dychwelasom yn ol, oddeutu Ebrill, 1820. N